Efallai’ch bod wedi gweld gwaith yn digwydd yn Llys Dafydd dros yr wythnosau diwethaf – chwynnu, glanhau a phlannu?
Creu gardd i ddenu peillwyr
Gyda chaniataid y Cyngor Cymuned a gyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mae criw’r Dyffryn Gwyrdd wedi bwrw ati’i greu gardd fydd yn denu peillwyr a bywyd gwyllt a fydd hefyd yn adnodd cymunedol ar gyfer planhigion bwytadwy.
Yn ddiweddar, mae gwirfoddolwyr lleol wedi gweithio ochr yn ochr gyda Blodeuwedd Botanics, ac mae Dylan Ffenestri Sgwar a Dylan A1 Waste wedi clirio a glanhau’r safle. Fel canlyniad mae’r Llys wedi altro’n sylweddol.
Ffair Gerddi
Bydd Ffair Gerddi a Gwirfoddoli’r Dyffryn Gwyrdd yn digwydd ddydd Sadwrn yma, Mehefin 26ain rhwng 11 a 3pm, lle y bydd cyfle’i drigolion y dyffryn ddod i weld y gwaith hyd yn hyn a dysgu am yr amrywiol gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael i gynnal a datblygu’n cymunedau.
Bydd cyfle hefyd i ymweld â Gardd Tan Twr a’r ardd newydd ym Mhlas Ffrancon, ‘Gardd Ffrancon’.
Mae dal mymryn o waith i’w gwblhau, ond bydd Llys Dafydd yn ailagor cyn bo hir ar gyfer mynediad i’r cyhoedd – cewch ddod i weld pa ffrwythau a pherlysiau fydd yn barod i’w bwyta!
Am fwy o fanylion cysylltwch â menna@0gwen.org