Tynal Tywyll ar gau ben bore Iau

Gwaith yn dechrau i lanhau graffiti

Carwyn
gan Carwyn
AF6E5F49-031D-418E-832A

Bydd unrhyw un sydd wedi cerdded neu feicio ar hyd Lôn Las Ogwen wedi gweld enghreifftiau o graffiti ar arwyddion a rhai waliau yn ddiweddar.

Celf i rai ond mae nifer o ddelweddau wedi eu peintio heb hawl swyddogol yn ardal y twnnel.

Felly mae gwaith yn digwydd fore Iau, 20 Mai o 5am tan tua 10.30am.

Diolch i Dylan Edwards Ffenestri Sgwâr fydd yn codi cyn cŵn Caer i ddechrau ar y gwaith glanhau.