Trystan yn ymuno Pwyllgor Cymru’r Loteri

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi croesawu’r gŵr o Fethesda yn lysgennad i ddarparu grantiau yng Nghymru

E_Ps4-HWYAQ970y

Yn ddiweddar, mae Trystan Pritchard wedi ymuno â Phwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae Trystan, sy’n byw ym Methesda, yn Brif Swyddog Gweithredol Hosbis Dewi Sant.  Mae hefyd yn Aelod o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae eisoes wedi cadeirio Pwyllgor Cymru ar gyfer Cyngor ar Bopeth Cymru.

Fe’i benodwd i Bwyllgor y Loteri ar yr un adeg â Gwenllian Lansdown Davies, Prif Swyddog Gweithredol Mudiad Meithrin.

Fel aelod o’r pwyllgor, bydd yn goruchwylio’r broses o wneud grantiau yng Nghymru ar adeg pan fo’r Gronfa’n parhau i gefnogi pobl a chymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan COVID-19 – gan adeiladu ar a chryfhau’r cysylltiadau, y sefydliadau a’r gwydnwch sy’n galluogi cymunedau i ffynnu.

Wrth ymuno â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, dywedodd Trystan: “Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn bwysicach nag erioed o ran helpu cymunedau yng Nghymru i ddatblygu mentrau newydd, ymateb i heriau newydd a helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at y gwaith hwn a gobeithio y gallaf helpu i sicrhau bod y prosiectau a’r manteision rhagorol a ddarperir gan y gronfa yn parhau yn ystod y cyfnod ansicr hwn.”

Dywedodd Dr Simone Lowthe-Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Cymru: “Rwy’n falch o groesawu Trystan a Gwenllian i Bwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Maent yn dod â chyfoeth o brofiad o’r trydydd sector a’r sector gwirfoddol yng Nghymru, yn enwedig ym maes iechyd, addysg a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd eu harbenigedd yn ein gadael mewn sefyllfa well fyth i gael arian y Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru.”

Y llynedd dosbarthwyd £31 miliwn mewn 850 o grantiau ledled y wlad, diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.