Trafod rheolau newydd i daclo problemau baw cwn

Ymgynghoriad diweddar wedi dangos fod mwyafrif clir o blaid a mynd i’r afael â pherchnogion anghyfrifol

9Z5A7348-Edit-2
Y Cyng Catrin Wager

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried rheolau newydd i ddisodli pwerau hŷn i geisio cadw mannau cyhoeddus yn lân a thaclus.

Mwyafrif llethol

Dangosodd yr ymgynghoriad cyhoeddus fod mwyafrif llethol o blaid y gorchymyn arfaethedig, a llawer yn nodi eu bod am i’r Cyngor ymateb yn fwy llym ar y rhai sy’n gadael i’w cŵn faeddu mewn mannau cyhoeddus.

“Rydw i mor ddiolchgar i’r 1,324 o bobl a sefydliadau sydd wedi cymryd yr amser i rannu eu barn ar y Gorchmynion Rheoli Cŵn newydd arfaethedig,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Briffyrdd a materion Bwrdeistrefol.

“Mae’r rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn cymryd eu cyfrifoldeb o ddifri ac yn sicrhau eu bod yn glanhau ar eu hôl. Ond, rydyn ni’n gwybod nad yw hyn yn wir am bawb ac mae’r sylwadau a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn tanlinellu bod hyn yn rhywbeth y mae’n rhaid i’r Cyngor barhau i fynd i’r afael ag ef.”

Wardeiniaid newydd?

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin Wager:

“Mae’r holl sylwadau a gawsom wedi cael eu hystyried yn fanwl a byddwn yn ceisio cyflwyno mwy o finiau, gyda dosbarthwyr bagiau, fel yr awgrymwyd fel rhan o’r ymgynghoriad, ynghyd ag arwyddion wedi’u diweddaru.

“Rydym hefyd yn gobeithio cyflwyno dau warden rheoli cŵn newydd a fydd â phwerau gorfodaeth, ond a fydd hefyd yn gweithio ar ymgyrchoedd newid ymddygiad i geisio lleihau achosion baeddu yn y sir.

“Roedd y cyhoedd yn glir eu bod yn awyddus i ni gynyddu ymdrechion i fynd i’r afael â baeddu cŵn, ac rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae ein preswylwyr wedi’i ddweud.

“Pe bai’r cabinet yn cefnogi cyflwyno’r mesurau hyn, rwy’n gobeithio y byddant yn arwain at ostyngiad mewn baeddu cŵn ar ein strydoedd, ac yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cyfyngiadau cŵn a chaniatáu i berchnogion cŵn gael lle a rhyddid i ymarfer eu hanifeiliaid anwes yn gyfrifol.”

Newid ymddygiad

Mae’r adroddiad a fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Gwynedd yr wythnos nesaf yn argymell:

  • fod cŵn yn cael eu heithrio o 18 o draethau penodol rhwng 1 Ebrill a 30 Medi a hefyd eu heithrio o feysydd chwarae plant, tiroedd ysgolion, meysydd a chyfleusterau chwaraeon trwy gydol y flwyddyn;
  • fod pobl rhai nad ydynt yn clirio llanast eu cŵn mewn unrhyw le cyhoeddus yn wynebu dirwyon yn y fan a’r lle;
  • fod rhaid i berchnogion gadw eu cŵn ar dennyn os bydd swyddog gorfodaeth Cyngor Gwynedd yn gofyn iddynt wneud hynny;
  • y bydd Cyngor Gwynedd yn cyflogi dau warden rheoli cŵn a fydd yn gweithio ar ymgyrchoedd newid ymddygiad yn ogystal â gorfodi;
  • mwy o finiau, bagiau am ddim ac arwyddion newydd ledled y sir.