Mynyddwr o Fraichmelyn yn dringo’r Matterhorn

Calum Muskett wedi cyrraedd copa un o fynyddoedd ucha’r Alpau

Carwyn
gan Carwyn
E6ztaoFWYAAHk72

Ddoe (22 Gorffennaf), llwyddodd Calum Muskett, sy’n byw ym Mraichmelyn i ddringo i frig mynydd y Matterhorn yn yr Alpau.

4,478 metr

Yn un o fynyddoedd uchaf Ewrop, mae’r mynydd yn sefyll 4,478 metr o uchder. Gyda rhagamcanion fod hyd at 500 o fynyddwyr wedi marw yn ceisio cyrraedd y copa, mae’n dipyn o gamp i gyrraedd y brig yn ddiogel ac i adrodd yr hanes.

Yn fynyddwr profiadol, mae ei fagwraeth yma yn Nyffryn Ogwen a’r mynyddoedd wedi chwarae rhan amlwg yn ei yrfa. Mae’n debyg iddo ddechrau dringo yn ei arddegau cynnar gan gychwyn dringo yn Eryri.

Mae wedi teithio’r byd yn dringo mynyddoedd heriol gan gynnwys wal enwog El Capitan ym mharc genedlaethol Yosemite yn yr Unol Daleithiau.

Matterhorn

Dywed Calum ar ei gyfrif Twitter mai prin ydi’r nifer sydd wedi dringo’r mynydd eleni hyd yma.

Mae hynny oherwydd eira trwm sydd wedi parhau yn yr ardal yn hwyrach yn y flwyddyn. Mae’n deybg mai dim ond dau griw lwyddodd i ddringo’r mynydd ddoe, gyda rhai wedi gorfod cael eu hachub.

Llongyfarchiadau mawr i Calum a phob lwc gyda gweddill y mynydda’r haf yma.