Synnu at yr ymateb ar ôl dringo un o brif fynyddoedd yr Alpau dwsin o weithiau

Calum Muskett yn dweud fod ei fagwraeth yn Nyffryn Ogwen wedi bod o gymorth i’w lwyddiant 

Carwyn
gan Carwyn
Calum3
Calum4

Fel dringwr proffesiynol sy’n tywys pobl i fyny rhai o fynyddoedd ucha’r Alpau, roedd Calum Muskett wedi synnu fod fideo diweddar ohono yn cyrraedd brig y Matterhorn wedi cael cymaint o ymateb.

Ond mae’n falch o’r ymateb ac yn brysur yn paratoi ar gyfer tywys ar gyfer mynyddoedd nodedig eraill ar hyn o bryd. Roedd Ogwen360 yn falch o allu bachu ychydig o amser i glywed am ei hanes a sut mae ei brofiadau yma yn Nyffryn Ogwen wedi bod o gymorth iddo ar ei daith fel mynyddwr proffesiynol.

Y Carneddau a’r Glyderau

Er ei fod bellach yn un o fynyddwyr ifanc mwyaf talentog Cymru, nid dringo oedd yn mynd â bryd Calum erioed.

“Roeddwn i’n fy arddegau pan nes i ddechrau dringo a mynydda go-iawn, cyn hynny roeddwn i wedi bod yn chwarae rygbi fel fy mhrif gamp,” meddai Calum.

“Mae Bethesda yn lle gwych i fyw os ydych chi’n mwynhau chwaraeon awyr-agored, yn dringo creigiau, cerdded bryniau, beicio neu bysgota.

“Mae’n wych gweld mwy a mwy o bobl leol yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn rŵan. Y gwir ydi ei fod yn un o’r llefydd gorau ar gyfer chwaraeon awyr-agored gydag amgylchedd mor arbennig yn y Carneddau a’r Glyderau.

“Mae’r dringo yng Nghymru yn eithaf unigryw yn yr ystyr bod gennych chi lawer o wahanol fathau o greigiau fel llechi, calchfaen a rhyolit sy’n wych ar gyfer adeiladu techneg ddringo. Ac mae yna ddringfeydd sy’n gofyn llawer yn gorfforol yn ogystal â rhai sy’n rhoi her seicolegol go iawn nad ydach chi eisiau disgyn!”

Tywys yn yr Alpau

Ar ôl gadael yr ysgol, aeth Calum ymlaen i ddringo yn broffesiynol, gan weithio mewn ceginau a swyddi glanhau i helpu i ariannu ei deithiau.

“Roeddwn i’n cael help gan fy noddwyr hefyd ond yn y pen draw, fe wnes i gymhwyso fel tywysydd proffesiynol IFMGA ar ôl gweithio fel hyfforddwr awyr-agored.

“Mae’r cymhwyster tywysydd mynydd yn golygu fy mod i’n gallu tywys yn yr Alpau yn yr haf a’r gaeaf, felly rwy’n tueddu i rannu fy mlwyddyn rhwng bod yn yr Alpau ar gyfer dringo rhew a sgïo ddiwedd y gaeaf a’r gwanwyn a thywys mynydd yn ystod yr haf.

“Fel arall, rydw i’n ôl adref ym Methesda yn hyfforddi ac yn arwain dringo a hefyd yn gwneud rhywfaint o waith ymchwil i’r Bartneriaeth Awyr Agored.”

Syndod ar ôl dringo’r Matterhorn

Er fod cyrraedd copa rhai o fynyddoedd enwoca’r Alpau wedi dod yn ail-natur i Calum, roedd yr ymateb i fideo diweddar yr oedd o wedi ei bostio ar ei gyfrif Twitter wedi ei synnu.

“Roedd y fideo wnes i ei bostio cwpl o ddyddiau yn ôl o gopa’r Matterhorn yn dipyn o syndod o ran pa mor boblogaidd oedd hi!

“I fod yn onest, dyna oedd tua’r 12fed tro i mi fod yn tywys y mynydd gan fy mod i’n tueddu i esgyn y mynydd tua thair gwaith bob haf.

“Y bwriad ydi tywys ar y Matterhorn eto ymhen ychydig ddyddiau, ond y tro yma o ochr yr Eidal i fyny’r Liongrat, ond yn gyntaf rydw i’n mynd draw i Grindelwald i dywys crib Mittellegi ar yr Eiger.

“Yr wythnos diwethaf mi fues i’n tywys Mont Blanc ddwywaith, unwaith o ochr Ffrainc ac unwaith o’r llwybr llawer hirach i fyny ochr yr Eidal felly rwy’n teimlo fy mod wedi arfer efo’r ‘altitude’ uchel erbyn rŵan!”

Hapus iawn i helpu

Tra’i fod yn cael profiadau anhygoel draw yn yr Alpau ar y o bryd, mae’n edrych ymlaen hefyd at gael bod adref at ddiwedd mis Awst.

“Rydw i bob amser yn mwynhau bod adref a mwynhau’r amgylchedd anhygoel.

“Rwy’n hapus iawn i helpu unrhyw un yn lleol i ddringo – felly os ydych chi’n fy ngweld o gwmpas y dref mae croeso i chi fy stopio a holi cwestiynau!”

Dyna gynnig i unrhyw ddarpar-fynyddwr! Pob hwyl i ti Calum ar dy anturiaethau yn yr Alpau ac edrychwn ymlaen at glywed mwy am y llwyddiannau.