Siawns am gêm? Tîm dan 9 yn chwilio am gôl-geidwad

Mae tîm pêl-droed Bethesda angen rywun i lenwi’r menyg

Carwyn
gan Carwyn

Oes yna rywun yn eich tŷ chi fyddai’n mwynhau neidio i lenwi bwlch hollbwysig yn nhîm pêl-droed ieuenctid Bethesda?

Mae’r tîm o dan naw yn chwilio am gôl-geidwad i ymuno â’r garfan.

Os yw eich plentyn ym mlwyddyn 4 yn yr ysgol ac yn hoffi chwarae yn y gôl, mae’r criw hyfforddi yn awyddus i glywed gennych chi!

Cysylltwch gyyda’r clwb yma.