Sesiwn brechu Covid-19 ym Methesda

Cyfle i gael brechiad cyntaf neu ail mewn sesiwn galw-heibio ym maes parcio Clwb Pêl-droed Bethesda

229983090_6141970032509791

Cyntaf i’r felin

Ydych chi wedi cael eich brechiad cyntaf, neu’n disgwyl am apwyntiad ar gyfer eich ail bigiad?

Os felly, mae croeso i chi fwrw draw i sesiwn brechu lleol sy’n cael ei gynnal Dydd Iau yma, 12 Awst o 10am tan 2pm.

Bydd modd mynd draw heb apwyntiad, ond cyntaf i’r felin fydd hi!

Cofiwch, os ydych chi wedi methu cael y brechiad hyd yma, neu wedi penderfynu o’r newydd eich bod eisiau cael y pigiad, bydd croeso i chi alw draw.

Brechu Pfizer – Ar agor i bawb rhwng 18 a 39 oed yn ogystal â rheini sydd o fewn tri mis o’u pen-blwydd yn 18 oed i gael eu dos cyntaf neu ail ddos o’r brechlyn.

Sesiwn brechu Astra Zeneca – Ar agor i bawb dros 40+ oed i gael eu dos cyntaf neu ail ddos o’r brechlyn.

Mae croeso i bawb a dim angen apwyntiad.

Apwyntiad i leoliad arall

Os nad ydi’r dyddiad a’r amser yma yn gyfleus, mae yna nifer o apwyntiadau ar gael mewn sesiynau brechu eraill gerllaw yn y Gadeirlan ym Mangor neu yn y Ganolfan Denis yng Nghaernarfon.

Manylion yma i wneud apwyntiad ar gyfer y lleoliadau yna.