Hel sbwriel ym Mharc Meurig

Criw da wedi dod ynghyd ar gyfer y sesiwn hel sbwriel drefnwyd gan Bartneriaeth Ogwen

Carwyn
gan Carwyn

Daeth grŵp da o wirfoddolwyr at ei gilydd i dacluso a hel sbwriel ym Mharc Meurig, Bethesda yn ddiweddar.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Partneriaeth Ogwen: “Diolch yn fawr i’n cyfeillion a ddaeth i helpu’i dacluso Parc Meurig neithiwr – Alun, Jan, Eric a Robyn.

“Doedd hi ddim yn rhy flêr ond fe gasglwyd 6 sach o sbwriel. Byddwn yn cynnal sesiynau fel hyn pob pythefnos. Cysylltwch â ni’i ymuno neu i fenthyg offer er mwyn cael sesiwn efo’ch teulu a ffrindiau.”

Diolch iddynt am eu hymdrechion.

Mae manylion cyswllt Partneriaeth Ogwen yma os am gymryd rhan neu wybod mwy am y sesiynau.

1 sylw

Dafydd Alun Roberts
Dafydd Alun Roberts

Diolch yn fawr – angen gwerthfawrogi yr ardal. Dani’n byw mewn lle mor hardd.

Mae’r sylwadau wedi cau.