Rygbi cyffwrdd i oedolion ym Methesda

Sesiynau 16+ i bob gallu yn y Clwb Rygbi bob nos Wener

Carwyn
gan Carwyn
42204611-36B4-405D-BA3B
C01E8DD0-170A-40FE-BBDC

Pwy sydd wedi edrych ar sesiynau rygbi cyffwrdd y plant a meddwl, “Mae hynna’n edrych fel hwyl”?

Wel, mae cyfle hwyl i unrhyw un sy’n 16 a drosodd i ymuno yn yr hwyl a chael ymarfer corff yr un pryd.

Nos Wener

O nos Wener, 2 Gorffennaf bydd sesiynau wythnosol yng Nghlwb Rygbi Bethesda o 7 tan 8. Sesiynau hwyl i ferched a dynion – dim angen profiad blaenorol.

Beth amdani? Cyfle am gadw’n heini a mwynhau a beth am ddiod fach o’r clwb ar ôl y gêm!