Rhannu gardd

Dwy gymdoges ym Methesda yn gwneud ffafr i’w gilydd: un yn cynnig ei gardd ac yn hapus bod yr ardd yn cael ei thwtio, a’r llall wrth ei bodd bod ganddi rywle i dyfu llysiau

gan Judith Kaufmann
Gardd Candy

Gardd Candy Medi

Oct11th.2

Yr ardd mis Hydref

Raised-bedNov22nd

Gwely llysiau Tachwedd

March1.2

mis Mawrth

Gan Pam Green

Roedd hi mor hawdd ‘caffael’ gardd arall! Roedd Pam Green isio tipyn mwy o ardd ers blynyddoedd. Un diwrnod, wrth edrych i lawr ar ardd cymdogion oedd wedi tyfu drosodd yn llwyr, dyma ddechrau syniad.

Meddai Pam: “Rwyf wedi bod yn byw yn Rhes Mostyn er 1993, ac rwyf bob amser wedi mwynhau gofalu am fy ngardd gefn: mae’na goed a llwyni, ardal eistedd, coeden afal ifanc newydd a hefyd gwely wedi’i godi gyda chwpl o lwyni llus. O flaen y tŷ lle mae’n heulog, mae gen i fylbiau a blodau mewn potiau, ychydig o berlysiau a salad haf.

Fodd bynnag, fel llawer o bobl eleni, ceisiais dyfu ychydig mwy o fwyd – letys, cêl a rhai ffa Ffrengig. Yn anffodus nid oeddent yn hynod lwyddiannus oherwydd bod top fy ngardd yn rhy gysgodol dan y coed. Yna, ryw dro yn yr haf, roeddwn yn synfyfyrio uwchben yr ardd o flaen y tŷ, sy’n wynebu’r de ond sydd erioed wedi’i drin yn ystod yr holl flynyddoedd rydw i wedi bod yma: lle delfrydol i dyfu llysiau! Rwy’n nabod Candy, y perchennog, ac yn ei gweld yn cerdded ei chi o bryd i’w gilydd, felly wrth i’r hydref agosáu, roeddwn i’n meddwl gofyn sut byddai hi’n teimlo amdanaf i yn cymryd peth o’r ardd!

Roedd hi’n ddiwedd mis Medi cyn i mi weld Candy a gofyn iddi; ac er mawr lawenydd i mi, fedr Candy fod ddim balchach o’r syniad o rywun yn ‘gwneud rhywbeth’ gyda’i gardd, a oedd wedi bod yn faich iddi hi ac yn gwneud iddi deimlo’n euog braidd. Aeth Jeremy a minnau ati ar unwaith i geisio clirio darn defnyddiol cyn i dywydd garw’r gaeaf ein gyrru dan do. Roedd mor dda cael prosiect awyr agored pan ddaeth cyfyngiadau clo unwaith eto.”

Mae Candy yr un mor frwdfrydig. Meddai: “ Gallai ddim byd gwell ddigwydd i mi. Dwi’n edrych dros yr ardd o’m ffenest gefn, a dwi mor falch o weld sut mae’r ardd yn datblygu! O’r diwedd, mae rhywun efo amser ac awydd i fynd yna a chadw trefn! Mae’n braf iawn gallu cynnig fy ngardd sy’n ormod i mi i rywun sydd isio mwy o ardd. Mae’n syniad da i wneud rhywbeth fel hyn rhwng cymdogion, heb iddo fynd yn rhywbeth cymhleth.”

Mae Pam a Jeremy wedi clirio mieri a buddleia i ddatgelu rwbel adeiladu a charpedi i ddarganfod ardal wastad i godi gwely uchel arni. Meddai:

“Erbyn mis Tachwedd roeddem wedi clirio ardal digon mawr ar gyfer gwely llysiau, gan ddefnyddio’r carpedi i orchuddio’r malurion dros y gaeaf. Fe wnaethon ni gasglu dail mewn bagiau plastig i’w pydru, a ffeindio paledi i wneud bin compost. Fe wnaethon ni brynu byrddau sgaffaldiau ail-law ar gyfer y gwely uchel, a giât ail-law i’w osod ar ben y grisiau.

Cyn y gaeaf, roedd y gwely wedi’i haenu â chardbord, brigau coed, ac yna toriadau gwair, gyda haen arall o gardbord a tharpolin ar ei ben. Yn y tymor tyfu newydd, fyddwn ni’n ychwanegu dail, pridd a chompost.

Mae’r dyddiau olaf hyn o fis Chwefror a dechrau mis Mawrth wedi dod â ni allan eto i baratoi’r ardd i’w phlannu. Rydym wedi leinio’r paledi â gwifren cyw iâr ac wedi gwneud y bin compost, gan wagio rhai o’r bagiau o ddail i mewn gyda gwastraff cegin i’w gychwyn. Rydym hefyd wedi defnyddio rwbel i greu llwybrau o amgylch y gwely, ac ar lefel is sy’n fwy diogel rŵan. Mae’r gwely wedi’i lenwi bron i’r lefel plannu, yn barod ar gyfer y ffa a’r tatws. Mae gen i gasgen ddŵr glaw, gan nad oes dŵr arall yn yr ardd, a baddon plastig ar gyfer adar y to sy’n byw yma. Mae’n peri pryder imi ei fod yn eithaf moel yma i fywyd gwyllt, ond gobeithio y daw mwy o hynny yn y dyfodol.”

Dros y cyffro i gyd, dydi Pam ddim wedi anghofio ei gardd gefn! “Gallaf nawr weithio ar wneud fy ngardd gefn yn fwy cyfeillgar i fywyd gwyllt gyda phwll newydd a blodau peillio ymhlith y llwyni. Fy meibl ar gyfer y flwyddyn tyfu llysiau yw ‘Veg in One Bed’ gan yr arddwr ifanc o Gymru, Huw Richards. Mae llwyth o fideos defnyddiol ar-lein hefyd gan gynnwys nifer gan Charles Dowding, garddwr dull ‘No Dig’.

Cyngor Pam a Candy: peidiwch â bod ofn rhoi cynnig arni os ydych chi wedi bod yn meddwl amdano!

Nid oes gan Candy a Pam unrhyw gytundeb ariannol ynglŷn â’r trefniant garddio hwn – ar hyn o bryd mae’n sefyllfa hapus iawn i’r ddwy ohonynt, ac os yw’r tymor tyfu yn llwyddiannus, gobeithio bydd’na rywfaint o gynnyrch i Candy fel ‘diolch’!