Pytiau hanes cerddoriaeth Bethesda mewn cylchgrawn

‘Shindig’ yn adrodd hanesion â chysylltiadau gyda Dyffryn Ogwen

Rhys Jones
gan Rhys Jones
Dic Ben a Gareth Thomas yn pori trwy rhifyn newydd cylchgrawn Shindig a hel atgofion am record Gog gan Meic Stevens yn nhafarn y Sior .

Mae cylchgrawn cerddoriaeth Shindig yn prysur ddod yn ffynhonnell ddiddorol i ffans cerddoriaeth amgen o’r chwedegau i’r presennol, gydag erthyglau am gerddoriaeth o bedwar ban byd ym mhob cyfrol fisol.

Yn y rhifyn diweddaraf (Awst, 117) gwelwn ambell  erthygl a allai fod o ddiddordeb i drigolion Bethesda. Y brif erthygl yw eitem am record hir Meic Stevens o 1977 sef Gog, gyda’r ffotograffydd Garry Stuart (a oedd yn byw ar Stryd Ganol Carneddi ar y pryd) yn hel atgofion o gymryd lluniau’r clawr ym Mharc Meurig. Mae sôn hefyd am y band Jîp, band rock a jazz a oedd yn cynnwys John Gwyn, gynt o’r band Brân. Ceir pwt hefyd am Ŵyl Ara Deg, sef cydweithrediad rhwng Neuadd Ogwen a’r cerddor Gruff Rhys.

Mae argraffwyr Shindig, Silverback Publishing, yn cynnal cystadleuaeth i ennill blwyddyn o gylchgronau. Er mwyn cystadlu anfonwch e-bost at subs@silverbackpublishing.rocks hefo’r pennawd Ogwen Shindig. Bydd y gystadleuaeth yn dod i ben ddydd Mawrth, Awst 31. Pob lwc.

Gyda diolch i Dewi o dafarn y Siôr.