Prysurdeb ar y llwybrau

Ail-agor un llwybr a gwaith yn cychwyn ar un arall o lwybrau’r Dyffryn 

Carwyn
gan Carwyn

Wrth i lwybr sydd wedi bod ar gau am beth amser ail-agor ym Mharc Meurig ym Methesda, mae llwybr arall o Stryd y Ffynnon hyd Ffordd Abercaseg yn cau dros dro er mwyn cynnal gwaith i wella’r wyneb.

Adroddwyd mewn erthygl diweddar y bu’n rhaid cau rhan o lwybr poblogaidd ym Mharc Meurig ym Methesda wedi i goeden dderw oedd dros 200 mlwydd oed ddisgyn mewn tywydd stormus cyn y Nadolig.

Da gweld fod y gwaith o goeden bellach wedi ei symud a’r gwaith cywrain o drwsio’r wal gerllaw wedi ei gwblhau bellach a bod y llwybr wedi ail-agor.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd contractwyr ar ran eu tîm Cefn Gwlad a Mynediad yn cynnal gwelliannau i arwyneb y llwybr troed rhif 16 & 16A. 

Oherwydd y gwaith, bydd y llwybr ar gau dros-dro. Y gobaith ydi y bydd modd cwblhau’r gwaith o fewn pythefnos ac yna bydd y llwybrau yn ail-agor fel newydd.

Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi rhybudd gwahardd defnydd dros-dro tra bod y gwelliannau yn bwrw ymlaen. Ond mae llwybr arall ar gael yn y cyfamser – sef llwybr troed rhif 17 o Stryd y Ffynnon hyd at Ffordd Abercaseg.