Plas Ffrancon ar gau Ddydd Sadwrn

Ni fydd y Ganolfan Byw’n Iach ym Methesda ar gael o 10.30am

Carwyn
gan Carwyn

Mae Byw’n Iach sy’n gyfrifol am ganolfannau hamdden leol wedi dweud y bydd Plas Ffrancon ar gau o 10.30am tan 3.30pm ar ddydd Sadwrn, 4 Medi.

Mewn neges ar eu cyfryngau cymdeithasol, mae’r cwmni wedi ymddiheuro “am unrhyw anghyfleuster a achosir” gan y cau dros-dro i’r ganolfan ym Methesda.