Plas Ffrancon yn ail-agor o 4 Mai

Byw’n Iach yn cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer ail-agor ar gyfer gweithgareddau dan-do yn y ganolfan hamdden

Carwyn
gan Carwyn
BywIach1

Wedi hir ymaros oherwydd y cyfyngiadau Covid-19, mae cwmni Byw’n Iach, sy’n rhedeg canolfannau hamdden Gwynedd, wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer ail-agor.

Gyda chyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn llacio, mae cynlluniau Byw’n Iach yn golygu y bydd Plas Ffrancon, fel gweddill canolfannau Gwynedd yn ail-agor i gwsmeriaid o 4 Mai.

Bydd canolfannau lleol Plas Ffrancon, Bangor, Arfon (Caernarfon) yn ail-agor eu drysau i gwsmeriaid ymarfer yn ddiogel. Bydd modd i gwsmeriaid ymweld â’r gampfa neu nofio lôn yn y pyllau.

Bydd gweithgareddau grŵp, a fydd yn cynnwys rhaglenni poblogaidd o ddosbarthiadau ffitrwydd yn ogystal â gwersi nofio a gymnasteg  i blant yn ail-gychwyn hefyd. Mi fydd hefyd modd i glybiau dychwelyd dan do a thu allan – trwy gadw at uchafswm o 15 o bobl mewn grŵp tu mewn a 30 tu allan am y tro.

Os ydych am gael lle i’ch plentyn yn y gwersi nofio neu gymnasteg, mae Byw’n Iach yn gofyn i chi gysylltu efo’ch canolfan leol i ofyn a oes lle ar gael neu os ydi’n bosib ymuno a’r rhestr aros.

Trefniadau yn eu lle

“Mae hi wedi bod yn gyfnod hir ers i’r cyfleusterau fod ar gael oherwydd y rheoliadau i reoli Covid-19 ond rydym yn falch iawn o fod yn gallu ail-agor,” meddai Amanda Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach.

“Rydym yn ymwybodol y bydd sawl un yn teimlo ychydig yn bryderus am ddychwelyd. Mae hynny wrth gwrs yn ddealladwy ond mae ymchwil yn ystod yr hydref a’r gaeaf wedi profi fod canolfannau yn llefydd diogel gyda’r trefniadau Covid Diogel ychwanegol sydd yn cael eu gweithredu.

“Mae’r systemau yn cynnwys trefn pellhau gymdeithasol clir iawn, trefniadau glanhau ychwanegol a chyson, lleihad sylweddol yn y nifer o bobl all fod yn yr adeilad ar unwaith, hyfforddiant Covid i bob aelod o staff a gwaith cynnal a chadw proffesiynau ac addasiadau i’n systemau awyru sydd yn golygu fod llif o awyr iach i mewn i bob rhan o’r adeilad i safonau’r diwydiant.

“Mae hi hefyd yn bwysig cofio fod ymchwil sylweddol wedi cadarnhau fod cyswllt clir iawn rhwng bod yn actif ac yn ffit a gallu unigolyn i wrthsefyll Covid-19 a sawl afiechyd arall. Trwy gadw’n heini mi all pob un ohonom ni warchod ein hiechyd a lleihau’r galw ar y Gwasanaeth Iechyd.”

Mae’n rhaid bod yn aelod o Byw’n Iach ar hyn o bryd a bwcio eich sesiynau o flaen llaw. Mae aelodaeth flynyddol safonol yn costio £11.50 i bobl ifanc 16-24, pobl dros 60oed a phobl anabl. Mae aelodaeth am ddim i blant hyd at 16 oed ac yn £21.30 i bob oedolyn arall. Mae aelodaeth yn sicrhau pris is ar gyfer pob ymweliad yn ystod y flwyddyn. Mae modd wrth gwrs hefyd talu am becyn Debyd Uniongyrchol sydd yn rhoi defnydd di derfyn o’r cyfleusterau – gall staff eich canolfan lleol eich cynghori.

Sesiynau blasu ar y gorwel

Mi fydd Tîm NERS (Rhaglen Cyfeirio i Ymarfer)  hefyd yn raddol ehangu eu gwaith a chefnogi cleientiaid newydd dros yr wythnosau nesaf. Mae’r tîm yn medru cefnogi ystod eang o drigolion sydd â chyflyrau iechyd penodol, yn gwella wedi triniaeth neu’n ceisio lleihau pwysau gwaed neu golli pwysau. Os ydych chi’n teimlo y gall y tîm eich cefnogi chi, siaradwch efo’ch meddyg teulu neu nyrs cymunedol i weld os ydy’n opsiwn addas i chi.

Er mwyn cefnogi rhai sydd efallai’n teimlo eu bod angen ychydig  gefnogaeth ychwanegol mae Byw’n Iach am gynnal sesiynau newydd sbon wythnosol “Actif am Oes” ar bob safle o’r wythnos sydd yn cychwyn 7fed o Fehefin 2021, a fydd ymlaen tan wyliau’r haf. Bydd cyfle i fynychu’r ganolfan ar fore neu brynhawn yn rhad am ddim.

Yn ystod y sesiynau mi fydd yr ystafell ffitrwydd ar gael gyda goruchwyliaeth a niferoedd isel – tebyg i drefniant “amser tawel”. Mae’r sesiynau yma’n ddelfrydol ar gyfer trigolion hŷn – ond ar gael i rywun sy’n awyddus i gymryd y cam cyntaf gyda thipyn o gefnogaeth ychwanegol. Does dim rhaid bod yn aelod i fynychu’r sesiynau anffurfiol yma – croeso i bawb alw heibio!

Am fanylion am y gweithgareddau ym Mhlas Ffrancon a chanolfannau eraill, ewch i  www.bywniach.cymru. Os nad ydych chi’n medru cael hyd i’r wybodaeth sydd angen, cysylltwch gyda Byw’n Iach ar cyswllt@bywniach.cymru neu ffonio’r ganolfan.