“Mae pawb yn yr un cwch”

Ymateb Cadeirydd Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen i ganslo Sioe Frenhinol Llanelwedd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Cadeirydd Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen, Alwyn Lloyd Ellis wedi dweud mai canslo’r Sioe Frenhinol am yr ail flwyddyn yn olynol oedd y penderfyniad cywir.

Daw hynny, wedi’r cyhoeddiad ddoe (Ionawr 27) bod y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd wedi’i chanslo eto eleni.

Roedd disgwyl i’r Sioe Amaethyddol fwyaf yn Ewrop gael ei chynnal fis Gorffennaf ond mae bygythiad parhaus y coronafeirws wedi golygu nad oedd dewis ond canslo.

“Mi fysa fo’n ormod o gyfrifoldeb”

Doedd y newyddion ddim yn syndod i’r Cadeirydd, sydd eisoes wedi cymryd y penderfyniad i ganslo Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen eleni.

“Dydw i ddim yn synnu bod y Sioe yn Llanelwedd wedi penderfynu mynd lawr y ffordd yma,” meddai.

“Wrth gwrs, maen nhw dipyn mwy na ni ond mae’r un egwyddor yn wir – mae pobl yn cymysgu’r un fath.

“Mi fysa fo’n ormod o gyfrifoldeb – dydyn ni ddim eisiau cymryd y risg – y rhai sy’n cynnal y sioe a’r rhai fyddai’n ymweld â’r Sioe.

Eglurodd bod pwyllgor Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen wedi bwriadu disgwyl i glywed cyhoeddiad gan y Sioe Frenhinol cyn gwneud penderfyniad eu hunain ond oherwydd yr ansicrwydd a’u dymuniad i gynnal “sioe lawn”, gwnaed y penderfyniad yn fuan.

“Does dim pwynt cynnal sioe sydd dim am dalu ei ffordd chwaith,” meddai.

Ychwanegodd bod “pawb yn yr un cwch” a’i fod rhagweld y bydd mwy o sioeau’n cyhoeddi newyddion tebyg dros yr wythnosau nesaf.

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.