Mae Cadeirydd Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen, Alwyn Lloyd Ellis wedi dweud mai canslo’r Sioe Frenhinol am yr ail flwyddyn yn olynol oedd y penderfyniad cywir.
Roedd disgwyl i’r Sioe Amaethyddol fwyaf yn Ewrop gael ei chynnal fis Gorffennaf ond mae bygythiad parhaus y coronafeirws wedi golygu nad oedd dewis ond canslo.
“Mi fysa fo’n ormod o gyfrifoldeb”
Doedd y newyddion ddim yn syndod i’r Cadeirydd, sydd eisoes wedi cymryd y penderfyniad i ganslo Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen eleni.
“Dydw i ddim yn synnu bod y Sioe yn Llanelwedd wedi penderfynu mynd lawr y ffordd yma,” meddai.
“Wrth gwrs, maen nhw dipyn mwy na ni ond mae’r un egwyddor yn wir – mae pobl yn cymysgu’r un fath.
“Mi fysa fo’n ormod o gyfrifoldeb – dydyn ni ddim eisiau cymryd y risg – y rhai sy’n cynnal y sioe a’r rhai fyddai’n ymweld â’r Sioe.
Eglurodd bod pwyllgor Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen wedi bwriadu disgwyl i glywed cyhoeddiad gan y Sioe Frenhinol cyn gwneud penderfyniad eu hunain ond oherwydd yr ansicrwydd a’u dymuniad i gynnal “sioe lawn”, gwnaed y penderfyniad yn fuan.
“Does dim pwynt cynnal sioe sydd dim am dalu ei ffordd chwaith,” meddai.
Ychwanegodd bod “pawb yn yr un cwch” a’i fod rhagweld y bydd mwy o sioeau’n cyhoeddi newyddion tebyg dros yr wythnosau nesaf.