Parcio am ddim yng Nghae Star o 11 tan 28 Rhagfyr

Rheswm arall i gefnogi busnesau lleol dros y Nadolig 

Carwyn
gan Carwyn
ParcioNadolig-21

Os byddwch yn piciad i mewn i Fethesda yn y bythefnos cyn y Nadolig, cofiwch y bydd parcio am ddim ym maes parcio Cae Star o 11 tan 28 Rhagfyr.

Cefnogi busnesau lleol

Wrth gyhoeddi’r cynllun, dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, Aelod Cabinet Amgylchedd y Cyngor:

“Mae’r cyfnod Covid wedi bod yn anodd iawn i’r gymuned fusnes, ac mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yma yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig yn rhoi hwb i gwmnïau Gwynedd.

“Trwy siopa’n lleol, yn hytrach na theithio am filltiroedd a mynd yn sownd mewn tagfeydd traffig, rydych nid yn unig yn rhoi hwb i fasnachwyr lleol ond byddwch hefyd yn helpu’r amgylchedd hefyd.”

Amser pwysig i fasnachwyr

“Mae’r Nadolig yn amser pwysig iawn i lawer o fasnachwyr yng Ngwynedd, gyda siopau a busnesau yn y sir yn cynnig dewis eang o nwyddau a syniadau am anrhegion,” ychwanega’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi Gwynedd

“Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun parcio am ddim yn annog mwy o bobl i gefnogi siopau Gwynedd yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig ac rydym yn annog trigolion i gefnogi eu siopau lleol.”

Mae’r cynllun parcio am ddim yn rhan o ymgyrch ehangach gan y Cyngor i annog pobl i siopa’n lleol. Mae gwybodaeth am yr amrywiaeth o ddanteithion sydd ar gael o lawer iawn o fusnesau Gwynedd i’w gweld yma.

Bydd ffioedd fel arfer yn ail-gychwyn o 29 Rhagfyr.