Oedi posib wrth adnewyddu golau stryd

Mae disgwyl i’r gwaith adnewyddu barhau o 4 hyd 29 Hydref

Mae trigolion ym Methesda wedi cael gwybod y bydd gwaith adnewyddu goleuadau stryd ar gefnffordd yr A5 yn digwydd rhwng 9am a 4pm o 4 hyd 29 Hydref. Bydd y gwaith yn cynnwys adnewyddu goleuadau stryd, ceblau ac arwyddion oleuo.

Osgoi diffygion

Mae’n debyg fod y goleuadau presennol wedi cyrraedd diwedd eu hoes ac na fyddai’n synhwyrol parhau gyda gwaith cynnal a chadw. Mae neges ar wefan Traffig Cymru yn esbonio fod  gwaith yn digwydd i “amnewid y rhwydwaith ceblau goleuadau er mwyn osgoi diffygion yn y dyfodol”.

Mewn nodyn trwy’r drws yn gynharach yn yr wythnos, mae’r Asiantaeth Cefnffyrdd yn dweud “bydd angen defnyddio goleuadau traffig, arwyddion ‘stop’ a ‘go’ a hebrwng cerddwyr” ac “y gallai’r adnewyddu goleuadau ym Methesda arwain at oedi.” Bydd ymdrechion yn digwydd i gyfyngu ar y gwaith i’r llwybr troed gan ddefnyddio hebryngwr i helpu cerddwyr i osgoi’r gwaith.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ar yr A5 ‘Ffordd Bangor’ ym Methesda, ac mae’r asiantaeth wedi ymddiheuro am “unrhyw anhwylustod y gall hyn ei achosi”.

Os bydd unrhyw un eisiau trafod y mater, gofynnir i chi gysylltu gydag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ar 0300 123 12 13, holi cyfrif Twitter @TraffigCymruG neu ewch i’r wefan os am fwy o fanylion.