Y Niwl – trac newydd Dafydd Hedd, Endaf a Mike PR

Dyma’r trac gan artist o Fethesda sydd wedi dod o ganlyniad i brosiect Sbardun Talent Ifanc wrth gydweithio efo High Grade Grooves. 

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard
Celf clawr NiwlHigh Grade Grooves

Mae trac newydd sbon “Niwl” yn ganlyniad i brosiect ‘Sbardun Talent Ifanc’ dan arweiniad y cynhyrchydd Endaf ac mewn partneriaeth â Galeri.

Dyma brosiect oedd yn agored i gerddorion ifanc oedd yn awyddus creu cân newydd a chydweithio gydag Endaf ac eraill i gyflwyno cerddoriaeth
drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cerddoriaeth electronig

Roedd pedwar cerddor yn rhan o’r prosiect, ac mae “Niwl” yn drac gan Mike Pritchard a Dafydd Hedd. Mae Dafydd yn ganwr 18 mlwydd oed o Fethesda sydd wedi rhyddhau sawl cân dros y
blynyddoedd – o gerddoriaeth indie, pop, pync a roc – dyma’r tro cyntaf iddo gyflwyno cerddoriaeth electronig.

Rhyddhaodd Dafydd EP “Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd” yn ddiweddar
ac mae wedi cael ymateb gwych gyda chaneuon i’w clywed yn aml ar BBC Radio Cymru.

Carl Cox a Jamie Jones yw ysbrydoliaeth Mike Pritchard, neu Mike RP fel ei adnabyddir y gŵr 19 mlwydd oed. Mae o wedi bod yn DJio ers yn 14 oed cyn symud ymlaen i gynhyrchu cerddoriaeth.

Mae ei gerddoriaeth yn bennaf o genre disgo a ‘house’ ac mae wedi rhyddhau ‘U
Got’ a ‘Stop Messin’ ar blatfform Soundcloud, gan ddenu sylw Endaf.

Trac i’w mwynhau yn yr haul

Mae dylanwadau’r ddau yn glir yn “Niwl”, o’r geiriau a llais teimladwy Dafydd Hedd i’r bît sydd yn cyfleu awyrgylch clwb nos gan Mike RP hefo Endaf yn clymu’r cwbwl yn ei ffordd electronig unigryw.

Dyma drac i’w fwynhau allan yn yr haul gyda gobaith gwirioneddol am ddychwelyd i ddigwyddiadau byw yn y dyfodol agos. Yn sicr mae ’na naws Disclosure ar gael yma, gyda sawl artist electronig fel Roughion wedi mwynhau hi, gydag ailgymysgiad ar y gweill.

Proses creu’r trac?

Cafodd y trac ei greu mewn deuddydd yn Galeri. Bydd rhai sydd wedi bod i gigs Dafydd Hedd ers y dyddiau cynnar yn nabod geiriau’r gan o’r hen ganeuon Niwl a Diwedd i Bob Dim sydd wedi cael ei ailfeddwl a’i uno gyda cherddoriaeth egnïol ffynci tu ôl iddo.

Mae pob aelod o’r tîm yn ôl Endaf wedi cael llawer o hwyl yn creu’r trac. Pwy a wyr, bosib y bydd y tri yn cydweithio eto rhyw ddydd.