Neil Maffia a Gwilym Bowen Rhys yn dod â gigs yn ôl i Pesda

Adolygiad gan Dafydd Hedd o’r gig, a phrofiad o awyrgylch Neuadd Ogwen yng nghanol pandemig

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard
Gig-maffiawww.neuaddogwen.com

Gig Gwyl Gwenllian

Pan welais fod Neil Maffia yn perfformio yn Neuadd Ogwen fel rhan o Ŵyl Gwenllian wrth sgrolio drwy Facebook, roedd hi’n anochel y byswn i’n troi fyny yno.

Colli gigs

Mae cerddoriaeth Maffia Mr Huws yn sicr ‘di cynnal y teulu dros y flwyddyn anodd diwethaf ‘ma. Roeddwn i, beth bynnag yn colli gigs, yn enwedig fel cerddor hefyd.

Gwelais fod hon yn gyfle hefyd, i mi brofi a chael dealltwriaeth sut yn union mae perfformiadau wedi newid efo’r rheolau. Ydi hi wir yn bosib mwynhau gig pan ti’n eistedd i lawr a methu dawnsio? (er fy mod i methu dawnsio yn y lle cyntaf)

Mi wnes i baratoi, dillad neis ymlaen a dwi’n falch o ddweud fod croeso cynnes Neuadd Ogwen dal i barhau. Pan gyrhaeddais, cefais sgwrs fach efo Neil a Dilwyn am gerddoriaeth a sawl peth arall, fel efallai gigs a pherfformiadau i ddod i’r dyfodol.

Cerddoriaeth berffaith

Roedd y ffordd roedd Neuadd Ogwen wedi trefnu’r gig yn wahanol iawn gyda sawl soffa a bwrdd ar lawr ddawns arferol y neuadd. Roedd tua 20-30 o bobl yno, ac yn lle cael diodydd yn y bar, roedd yna wasanaeth gweini gydag amrywiad o ddiodydd o fragdai lleol a bwydydd yn cael eu coginio yn ffres yn yr adeilad.

Hefyd roedd yna gerddoriaeth berffaith ar gyfer y cefndir, yn creu teimlad ymlacio, egnïol ac ysbrydoledig. Ar ben hynny roedd y goleuo yn amrywiol ac yn ddiddorol edrych arni a gitâr acwstig ar y llwyfan yn arweiniad o’r sioe sydd i’w ddod. Awyrgylch werth ei brofi!

“Yn dod o’r un lle a Ian Rush”

Ar ôl ‘chydig o ddiodydd dechreuodd Neil ei set. Meddyliais cyn dod i’r gig fod hi’n braf gwybod y caneuon sy’n cael ei chwarae er mwyn teimlo’n rhan o’r perfformiad ac roedd hyn yn wir iawn.

Dechreuodd y set gydag ambell gân fwy adnabyddus fel Lôn Osgoi Trwy’r Coed a Hyder Hyll gyda rhai caneuon eraill wedi eu taflu fewn, wedyn daeth y ‘covers’ o glasuron Cymraeg ac wedyn darn mwy digri i’r sioe, gyda chan am Jade Jones ysgrifennwyd yn arbennig fel ‘ritual’ ymuno Gwibdaith Hen Fran. Debyg fod rhaid ysgrifennu cân a chanu hi’n fyw o fewn tri mis o ymuno gyda’r grŵp er mwyn aros ynddi!

Roedd sawl person yn chwerthin ar y llinell “Yn dod o’r un lle a Ian Rush” a pan ofynnodd Neil i’r gynulleidfa pa chwaraeon ac eithrio pêl-droed a rygbi oedd Cymru’n serennu ynddo, atebodd rhywun “tiddlywinx” lle clywsom ni “Callia nei di” cadarn yn ôl. Roedd Neil wedi mwynhau yn fawr iawn ac roedd y gwylwyr wedi hefyd.

Gigs yn ôl yn y dyffryn

Wedyn daeth Gwilym Bowen Rhys ar y llwyfan. Roedd y dechrau yn egnïol iawn gyda “Gwn Dafydd Iwan” yn agor gyda naws gwladgarol, egnïol a pwrpasol iawn.

Ar ôl hynny, sonia Gwilym am ei drip i Golombia lle ddysgodd gan am le o’r enw ‘Socorro’, sy’n cyfieithu i’r gair Sbaeneg am help. Roedd hi’n sioc clywed can Sbaeneg byw yng Nghymru, ac yn deimlad hyfryd gan fy mod i wastad wedi bod eisiau teithio o gwmpas y byd a chlywed gigs mewn ieithoedd gwahanol, roedd hi’n adfywiol cael edrychiad fewn i ddiwylliant gwahanol.

Ar ôl hynny, ddaru’r set ddiwedd efo’r anthem Defaid Wiliam Morgan lle’r oedd pawb yn yr ystafell yn canu’n ôl yn ei seddi ac i’w weld yn mwynhau.

Roeddwn i wedi mwynhau, roedd y perfformwyr wedi mwynhau ac mae gigs yn ôl yn y dyffryn, er bod nhw bach yn wahanol.