Neges glir gan yr heddlu – rhaid dilyn y rheolau Covid-19

“Nid yw’n dderbyniol dewis a dethol y gyfraith rydych yn ei dilyn. Nid rŵan ydy’r amser i fynd i’r mynyddoedd neu fwynhau teithiau braf yng nghefn gwlad.”

Carwyn
gan Carwyn

Mae Heddlu’r Gogledd wedi tanlinellu’r angen i gadw at y rheolau Covid-19 er mwyn helpu i atal lledaeniad yr haint.

Gyda straen newydd o’r Coronafeirws sydd yn llawer haws ei rannu bellach yn amlwg iawn ar draws ardal y gogledd, mae’r awdurdodau yn rhybuddio fod rhaid cadw at y rheolau i gadw ein cymunedau yn saff.

Mewn neges ar gyfrif Facebook y llu yn lleol, cyfeirir at erthygl ddoe yn y Daily Post. Nodwyd fod mam ddienw o ardal Bae Colwyn wedi derbyn dirwy gan swyddogion yr heddlu ar ôl iddi deithio yn y car gyda’i phlant i Raeadr Fawr, Abergwyngregyn – a hynny yn groes i’r rheolau presennol.

Synnwyr cyffredin

Wrth ymateb i’r achos heddiw, dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro o Heddlu Gogledd Cymru, Nigel Harrison: “O ran yr hanes amdanom yn rhannu dirwyon i bobl ger rhaeadr Aber a oedd wedi teithio yno i ymarfer corff o Fae Colwyn (taith o 30 milltir i gyd), i fod yn glir, rwyf wedi gofyn i swyddogion a staff dargedu’r rhai hynny nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau. 

“Nid yw’n dderbyniol dewis a dethol y gyfraith rydych yn ei dilyn. Nid rŵan ydy’r amser i fynd i’r mynyddoedd neu fwynhau teithiau braf yng nghefn gwlad. 

“Rhaid i chi ddechrau a darfod eich ymarfer corff o’r lle rydych yn byw gyda rhai eithriadau. Mae pawb yn gwybod fod rheoliadau, felly nid wyf yn ymddiheuro i neb sy’n cael dirwy am beidio cydymffurfio, ac yn peryglu ein cymuned. Ni ddylai neb deithio oni bai ei bod yn gwbl hanfodol. 

“Gwnawn barhau i orfodi’r rheoliadau gydag ymrwymiad llwyr yn y cyfnod hwn lle mae nifer yr heintiau’n uchel iawn. Rwyf yn ddiolchgar am waith caled fy nghydweithwyr yn yr amgylchfyd presennol, ac rwyf yn ddiolchgar hefyd am gefnogaeth y mwyafrif helaeth o’r cyhoedd.” 

Ychwanegodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro: “Mae’n gyfrifoldeb arnom ni i gyd i wneud y peth iawn. Ni ddylai pobl feddwl am ffyrdd o gael y gorau ar y gyfraith. Ni ddylid bod angen yr heddlu i orfodi synnwyr cyffredin. 

“Gwnaiff plismona barhau i wneud ein rhan, ond mae angen i bawb arall wneud eu rhan hefyd. Arhoswch adref oni bai ei bod yn gyfreithiol i adael y lle rydych yn byw.”  

Lefel rhybudd 4

Mae straen newydd o’r Coronafeirws sy’n lledaenu’n haws ar led ym mhobman yng Nghymru, gydag adroddiadau ei fod yn arbennig o gyffredin yn y gogledd.

Ar hyn o bryd, mae Cymru-gyfan wedi ei gosod mewn Lefel rhybudd 4 a chyda hynny, mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r angen i bawb

  • aros gartref;
  • cyfarfod pobl yr ydych yn byw gyda nhw yn unig;
  • gweithio o gartref os gallwch;
  • gwisgo gorchudd wyneb lle bo gofyn;
  • golchi eich dwylo’n rheolaidd;
  • aros 2 fetr wrth unrhyw un nad ydych yn byw gyda nhw.

Mae’r cyngor ar ymarfer corff hefyd yn glir ac yn nodi ei fod yn bwysig ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl. 

Mae’r Llywodraeth yn egluro: “Cewch adael eich cartref mor aml ag yr hoffech i ymarfer corff cyn belled ag eich bod yn gwneud hynny gan gychwyn o’ch cartref, ac ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch aelwyd neu swigen gefnogaeth (a/neu ofalwr).”

Am y wybodaeth ddiweddaraf am y rheolau Covid-19 cenedlaethol, ewch i https://llyw.cymru/coronafeirws