Mwynhau’r awyr agored yn Gymraeg

Ymgyrch newydd yn hyrwyddo’r profiad Cymreig gwirioneddol yn y sector awyr agored

Carwyn
gan Carwyn

Yn dilyn cyfnod anodd iawn i fusnesau’r sector awyr agored oherwydd COVID-19, mae mentrau iaith Gwynedd (Hunaniaith), Bangor, Conwy a Môn lansio cynllun CAMU i greu brand i gyd-hyrwyddo busnesau awyr agored sy’n darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Y bwriad ydi hyrwyddo cwmnïau sy’n gallu cynnig profiad Cymreig gwirioneddol i ymwelwyr – gan olrhain ein hanes, enwau llefydd, mytholeg, byd natur a rhoi blas ar y Gymru go iawn.

Rhannu stori Cymru

Mae cwmni Anelu o Ddyffryn Ogwen yn cydweithio gyda’r ymgyrch.

“Fel cwmni sy’n gweithio yn yr awyr agored yng Ngwynedd rydym yn croesawu’n fawr yr ymgyrch hwn i godi ymwybyddiaeth a chefnogi busnesau Cymraeg lleol mewn sector lle nad yw’r mwyafrif o ymwelwyr ar hyn o bryd yn cael darlun a phrofiad gwirioneddol Gymreig,” meddai Stephen Jones, perchennog cwmni Anelu.

“Rydym yn awyddus iawn i newid hynny a rhannu stori Cymru gyda phlant a phobl o bob oed sy’n mwynhau’r profiad Cymreig.”

Cynhaliwyd lansiad yr ymgyrch ger traeth Dinas Dinlle, lle’r oedd 2 o gwmnïau eraill y sector, Elfennau Gwyllt a Pellennig, yn darparu gweithdai natur glan y môr i blant a chynnal gwers syrffio i’w haelodau.

Tan gynrychiolaeth o bobl leol

Yn ôl Llywela Owain, Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu, Menter Iaith Gwynedd (Hunaniaith):

“Fe wyddom ers tua 20 mlynedd bod tan gynrychiolaeth o bobl leol a siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y sector awyr agored yng Ngogledd Orllewin Cymru.

“Mae’r ymgyrch yma rhwng 4 Menter Iaith a detholiad o fusnesau sector awyr agored yn rhan o’r cynlluniau i geisio mynd i’r afael a hynny.

“Gyda’r sector awyr agored yn profi’n fwy poblogaidd nag erioed, mae angen sicrhau bod cyfleoedd gwaith newydd sbon ar gael i bobl ifanc lleol dwyieithog sy’n dilyn cyrsiau awyr agored yn ein Hysgolion Uwchradd a Cholegau.

“Hefyd, ein gobaith, dros amser, yw gweld nifer mwy o fusnesau ac unigolion yn ymaelodi hefo CAMU wrth iddo ddatblygu ac ymestyn.”

Ariannu hyfforddiant i ddarpar hyfforddwyr

Yn dilyn cyfnod o dros ddegawd o weithio yn y maes awyr agored, mae Menter Iaith Conwy wedi bod yn ariannu hyfforddiant i ddarpar hyfforddwyr yn y sector awyr agored.

Mae wedi ariannu dros 300 o hyfforddwyr dros y cyfnod hwnnw sydd bellach yn gweithio yn y maes neu yn rhedeg busnesau. Mae hyn yn golygu bod canran y siaradwyr Cymraeg sydd bellach, yn gweithio yn y diwydiant wedi cynyddu dipyn i sut oedd hi bymtheg mlynedd yn ôl.

“Yn ôl yn 2003 dim ond oddeutu 5% o weithlu’r diwydiant yn y Gogledd Orllewin fedrai siarad Cymraeg,” eglura Meirion Davies, Prif Weithredwr, Menter Iaith Conwy.

“Diolch yn rhannol i waith Menter Iaith Conwy, trwy gyllid Cronfa Datblygu Gwledig a chefnogaeth parhaus gan Gronfa Arbrofol Eryri, cododd y ganran i 28% erbyn yn 2011.

Ychwanega Meirion, sy’n byw yma yn Nyffryn Ogwen: “Ers hynny rydym wedi parhau i hyfforddi a chanolbwyntio ar gymwysterau uwch. Ond mae’r maes yn parhau i dyfu ac rydym yn awyddus iawn i barhau hefo’r gwaith yma.”

Mae tudalen Facebook CAMU yn cynnwys manylion llawn holl wasanaethau amrywiol 14 cwmni awyr agored yng Ngwynedd, Conwy a Môn.