Marwolaeth drist ym Methesda

Roedd presenoldeb mawr o swyddogion yr heddlu wedi eu gweld yn yr ardal

Carwyn
gan Carwyn

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi bod dynes 38 oed wedi marw ond nad ydi’r amgylchiadau yn cael eu trin fel rhai amheus.

Presenoldeb yr heddlu

Roedd presenoldeb mawr gan swyddogion y llu ym Methesda brynhawn ddoe. Roedd hyn wedi i swyddogion gael eu galw i gartref am oddeutu 5.30pm ddydd Mawrth (13 Gorffennaf).

Mynychodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â’r Gwasanaeth Ambiwlans. Yn anffodus, daeth yn amlwg fod y ddynes 38 oed wedi marw.

Mae’r crwner ac aelodau’r teulu wedi cael gwybod. Dywed yr heddlu nad yw’r amgylchiadau i’r farwolaeth yn cael eu trin fel rhai amheus ar hyn o bryd.

Cydymdeimlad
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Gibson: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’r teulu ar yr adeg drist hon.

“Rwy’n deall bod presenoldeb mawr yr heddlu wedi achosi pryder yn yr ardal leol a hoffwn eu sicrhau nad oes unrhyw reswm i bryderu yn y gymuned ehangach.”