Llyfrgell Planhigion yn Gerlan 

Plannu Gerlan – garddio a rhannu planhigion ar y “patio” mawr

gan Daniela Schlick

Dan ni fel criw bach wedi dod at ein gilydd i dwtio’r “patio” mawr yn Gerlan a’i wneud yn lle i bawb rannu planhigion a mwynhau’r golygfeydd godidog.

Caro, un o’r criw “Plannu Gerlan”, gafodd y syniad i greu Llyfrgell Planhigion gan ffrind yn America. Mae’r “llyfrgell” yn gyfle i rannu pob math o blanhigion, potiau a hadau. Daeth hen leoliad y capel yn Stryd y Ffynnon i’n meddwl fel lle canolog a pherffaith i gychwyn arni. Bellach mae rhai planhigion yno, potiau bach a bocs efo hadau blodau gwyllt. A braf iawn ydy gweld bod rhai planhigion wedi cael cartref newydd yn barod.

Tu hwnt i’r Llyfrgell Planhigion y bwriad ydy gwneud y lle yn fwy deniadol i bobl ei fwynhau ac i edrych yn fwy croesawgar. Dan ni’n bwriadu rhoi potiau efo blodau a llwyni cyn bo hir ac yn gobeithio gosod meinciau. Byddai gweld y patio’n troi yn lle i bobl ei fwynhau ac i gymdeithasu (yn ddiogel) yn ffantastig.

Mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn wych! Ac mae’r patio’n edrych yn reit daclus yn barod. Felly diolch i bawb ddaeth i’n helpu ni ac i bawb sydd wedi dechrau defnyddio’r Llyfrgell Planhigion. Ac wrth gwrs diolch i Sancho’r gath am gadw trefn ar bopeth!

Sut fedrwch chi helpu? Byddai dyfrio’r goeden a’r planhigion o dro i dro yn wych. Neu beth am glirio’r rendro sy’n disgyn oddi ar y wal weithiau? Mae pethau bach fel hyn yn help mawr i gadw’r lle yn daclus.