Oherwydd y pandemig, mae deunaw mis wedi mynd heibio ers argraffu copi papur o Lais Ogwan.
Mae Pwyllgor y Llais yn falch iawn o allu ail-gychwyn gwerthu yn y siopau lleol a thrwy’r rhwydwaith o ddosbarthwyr ffyddlon, a diolch iddynt am eu cefnogaeth.
Llais digidol
Ers y cyfnod clo cyntaf a’r ansicrwydd yn sgil Covid-19, copi digidol yn unig sydd wedi bod ar gael o Lais Ogwan.
Mae pwyllgor y papur bro yn hynod ddiolchgar am eu cefnogaeth barod yn ystod cyfnod digidol Llais Ogwan, yn cynnwys y cyfle i gydweithio gyda Bro360 a gwefan Ogwen360.
Copi papur
Ond fe wyddom fod sawl un wedi edrych ymlaen at gael y Llais yn eu dwylo ac i fodio’r tudalennau.
Braf felly ydi gallu adrodd fod y copi papur ar gael am 50 ceiniog, trwy’r dosbarthwyr arferol ac yn y siopau canlynol:
- Siop Ogwen, Bethesda + Cadwyn Ogwen
- Londis, Bethesda
- Tesco Express, Bethesda
- Barbwr Ogwen
- Caffi Coed Y Brenin
- Post Rachub
- Llys Y Gwynt (Siop SPAR)
- Siop Na-nog, Y Maes, Caernarfon
- Awen Menai, Porthaethwy
- Convenience Extra (Penrhosgarnedd)
- Late Stop (Bangor Uchaf)
- Kwik Save – dros ffordd i siop sglodion Valla
Cofiwch, os bydd gennych newyddion, anfonwch yr hanes draw at olygydd rhifyn mis Hydref, sef
Rhys Llwyd ar e-bost: rmll42@live.co.uk erbyn dydd Sadwrn, 25 Medi.