Lansio Hwb y Dyffryn Gwyrdd

Menter diweddaraf Partneriaeth Ogwen am wneud gwahaniaeth amgylcheddol a chymdeithasol

gan Huw Davies

Mae Hwb Dyffryn Gwyrdd – canolfan wybodaeth ac adnoddau wedi agor yn swyddogol ym Methesda.

Ar ddiwrnod bendigedig o haf ymwelodd Aelod o Senedd Cymru ac Aelod Seneddol yr ardal i gynnal agoriad swyddogol yr Hwb, menter ddiweddaraf Partneriaeth Ogwen.

Mae’r prosiect a gefnogir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 27 Stryd Fawr Bethesda yn bwriadu gweithio gyda thrigolion yr ardal. Bydd Hwb Dyffryn Gwyrdd yn gwella trefnidiaeth gymunedol werdd, creu cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli, lleihau unigedd gwledig a grymuso’r gymuned.

Hollbwysig i gymunedau weithredu

Meddai Siân Gwenllian: “Mae’r adnodd hwn yng nghanol stryd fawr Bethesda yn esiampl arall o waith da Partneriaeth Ogwen ac yn gaffaeliad i drigolion y dyffryn.

“Rydw i’n hynod falch i weld y Dyffryn Gwyrdd yn bwrw ati gyda’r gwaith pwysig hyn yn wyneb her yr hinsawdd. Mae’n hollbwysig i gymunedau weithredu ar y mater hwn ac mae’r hyn sydd dan sylw yn nyffryn Ogwen yn ardderchog.

“Dymunaf pob llwyddiant iddynt ac edrychaf ymlaen at ddychwelyd i Fethesda i weld ffrwyth y llafur!”

Gwasanaeth newydd

Ychwanegodd Huw Davies, Rheolwr y Dyffryn Gwyrdd: “Mae’n hyfryd gweld gymaint o bobl wedi dod ynghyd i lansio Hwb y Dyffryn Gwyrdd. Ryda ni’n ddiolchgar iawn i’r Loteri ac i’n holl gefnogwyr eraill ac i’n llu bartneriaid sydd wedi’n galluogi ddarparu’r gwasanaeth newydd hwn.

“Bydd yr hwb yn ganolfan lle y bydd pobl yn medru galw’i gael gwybodaeth a chyngor am adnoddau a gwasanaethau – pob dim o ddefnydd ein cerbyd trydan ar gyfer mynychu apwyntiadau ysbyty, dysgu am sut i addasu beic i fod yn un trydanol, gwybodaeth am gymorth cyfleodd gwirfoddoli gwyrdd, neu blannu a thyfu’n lleol.”