Hwyl yr Haf gyda’r Clwb Bore Sul ym Methesda

Capel Jeriwsalem ar y 4ydd o Orffennaf

gan Menna Jones
Hwyl yr Haf gyda'r Clwb Bore Sul 4ydd o Orffennaf

Bydd Hwyl yr Haf yn cael ei gynnal yn yr ardd o flaen Capel Jeriwsalem fore Sul, 4ydd o Orffennaf rhwng 10 a 11.30am.

Cyfle i chwarae gemau a gwneud crefftau, a chwrdd hefyd ag arweinwyr y Clwb Bore Sul, a fydd yn cael ei gynnal gan Ysgol Sul Jeriwsalem. Mae’n argoeli i fod yn fore braf!

Ond os daw’r glaw byddwn yn yr ystafell uchaf yn y Capel, lle mae digon o le.

Dewch yn llu a dewch â’ch ffrindiau. Dewch â phicnic hefyd os ydych chi eisiau!