Holi barn bobl leol er mwyn gwella’r sefyllfa parcio yn Eryri 

Y bwriad y annog dulliau trafnidiaeth fwy cynaliadwy, fel cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Partneriaeth Yr Wyddfa wedi lansio ymgynghoriad i wella mynediad a chysylltedd yn ardaloedd Yr Wyddfa ac Ogwen ym Mharc Cenedlaethol Eryri, gyda chymorth Trafnidiaeth i Gymru.

Yn benodol, maent yn gwahodd pobol leol i rannu eu barn i helpu i lunio strategaeth i wella’r sefyllfa parcio yn ardal Yr Wyddfa ac Ogwen.

Maent hefyd yn bwriadu annog dulliau trafnidiaeth fwy cynaliadwy, fel cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal rhwng Chwefror 1 a Mawrth 7, 2021.

Dyddiadau a lleoliadau

Llanberis 6.30-8.30 Chwefror 24
Betws y Coed 6.30-8.30 Chwefror 25
Beddgelert 6.30-8.30 Mawrth 2
Bethesda 6.30-8.30 Mawrth 3

Mae modd archebu lle drwy’r glicio’r ddolen hon neu drwy ffonio: 01286 875860 erbyn Chwefror 16.

“Diogelu’r mynydd a’r ardal gyfagos” 

“Mae gorddibyniaeth ar geir i gyrchu safleoedd poblogaidd o fewn calon Eryri ar hyn o bryd a phroblemau parcio dwys ar adegau prysur o’r flwyddyn yn rhwystro dibenion craidd y Parc Cenedlaethol o ddiogelu’r dirwedd, hyrwyddo dealltwriaeth a mwynhad o’r ardal, a chynorthwyo lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol,” meddai Catrin Glŷn, Swyddog Partneriaeth Yr Wyddfa.

“Mae Partneriaeth yr Wyddfa wedi ymrwymo i ddiogelu’r mynydd a’r ardal gyfagos, tra’n gwneud y dirwedd arbennig yn fwy hygyrch i ymwelwyr heb geir a galluogi pobl sy’n cyrraedd mewn ceir i ddod i’r ardal a’i hatyniadau trwy ddulliau amgen.

“Rydym yn gobeithio y bydd cymunedau a rhanddeiliaid lleol yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac yn ein helpu i lunio’r strategaeth a llywio’r cynlluniau parcio a thrafnidiaeth gynaliadwy sy’n cael eu datblygu. ”

“Hanfodol ein bod yn sefydlu dull cynaliadwy”

Ychwanegodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Datblygu Trafnidiaeth Cymru yng Ngogledd Cymru:

“Rydym yn falch iawn o gefnogi Parc Cenedlaethol Eryri gan ei bod yn hanfodol ein bod yn sefydlu dull cynaliadwy sy’n darparu cyfleoedd integredig i bobl archwilio’r ardal ymhellach ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus.”