Gŵyl Bro – Llyfrgell Planhigion Gerlan

Dod at ein gilydd eto a dathlu’n cymunedau

gan Daniela Schlick

Ar y 4ydd o Fedi am 2pm byddwn ni’n dod at ein gilydd wrth y llyfrgell planhigion yn Gerlan (Stryd y Ffynnon) i ddathlu’n cymuned, cymdeithasu dros banad a chacen a thrafod beth sy’ nesa ar gyfer y lleoliad.

Bysen ni wrth ein boddau’n clywed eich syniadau beth fyddech chi’n licio ei weld yno a beth fyddech chi’n licio ei wneud. Creu lle sy’n ddeniadol i bobl Gerlan a thu hwnt ydy’r nod.

Ac mi gawn ni gerddoriaeth gan Dafydd Hedd, ein cerddor ifanc lleol.

Felly, dowch yn llu! Dowch â’ch panad! Bydd cacennau ar gael am ddim. Ac os dach chi isio cyfrannu cacen, mae yna groeso mawr i chi ddod ag un.