Gwyl Ara-Deg a Gruff Rhys yn ôl yn y Dyffryn!

Gwledd o gerddoriaeth yn yr ŵyl tridiau ym mis Awst

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard
E7jrTe6XEAQCRQU
Ara DegNeuadd Ogwen

Wedi hir ymaros, mae Gŵyl Ara-Deg bron a chyrraedd, gyda cherddorion talentog yn barod i ddiddanu cynulleidfaoedd Dyffryn Ogwen.

Dechreuodd yr ŵyl yn 2019 fel prosiect Neuadd Ogwen a Gruff Rhys er mwyn cael rhagor o gigs gydag artistiaid o ieithoedd lleiafrifol y byd. Cafwyd artistiaid fel Mum o Wlad yr Ia sydd wedi ennill Oscar yn y gorffennol a oedd yn ddiddorol ofnadwy.

Mae Gruff Rhys wastad wedi bod yn un cefnogol o’r Neuadd ac am gynnig cyfle i arddangos talentau diddorol i ni yma yn Nyffryn Ogwen. Tydi’r ŵyl eleni ddim yn siomi.

Eleni mae’r ŵyl ymlaen o 26ain o Awst tan y 28ain gyda thair gig yn Neuadd Ogwen.

NOSON 1 – 26/08 – 7pm

  • GRUFF RHYS
  • AOIFE NESSA FRANCES

Wrth gwrs mae pawb yn adnabod Gruff Rhys fel prif leisydd y Super Furry Animals ac mae ei waith unigol hefyd yn parhau i ddenu edmygwyr. Mae ei albwm Seeking New Gods diweddaraf wedi cyrraedd rhif 10 ar Siartiau Albymau Cenedlaethol yn y DU. Mae o’n chwarae gig eto ac mae ei bresenoldeb yn yr ardal yn ddigon i gyffroi!

Mae Aoife Nessa Frances yn dod o Ddulyn ac ar y funud yn gweithio ar ei ail albwm yng nghefn gwlad Iwerddon. Mae gan Aoife tua 25,000 o bobl yn gwrando arni’n fisol ar Spotify ac ar sawl restr chwarae fel Bo-ho and Chill, Melancolia Indie, ac Indie Chill sy’n cyfleu ei naws seicadelig ymlaciol. Cafodd ei halbwm gyntaf, Land Of No Junction hi andros o glod, felly mae’n addo bod yn noson agoriadol i’w chofio.

£17.50

 

NOSON 2 – 27/08

  • BRÌGHDE CHAIMBEUL 
  • CERYS HAFANA
  • GWENIFER RAYMOND

Mae Brighde yn un o chwaraewyr pibau gorau’r Alban. Wedi ei magu mewn diwylliant Gaeleg, mae ganddi lawer o barch a chariad tuag at gerddoriaeth hynafol Geltaidd o’r Alban. Mae hi eisoes wedi recordio albwm yn yr Ucheldiroedd a chaiff hon ei ddisgrifio â blas arbrofol a chyfansoddiad arswydus.

Mae Gwenifer Raymond yn hanu o Gaerdydd ond yn byw yn Brighton ar hyn o’r bryd. Mae hi’n chwarae gitâr o’r arddull America cyntefig ar ôl cael ei ysbrydoli gan artistiaid melangan ôl-ryfel yn yr Unol Daleithiau. Nawr mae hi’n rhan o label enwog Tompkins Square.

Mae Cerys Hafana yn adnabyddus o’r ŵyl yn 2020 pan yr ymddangosodd mewn fideo yn rhan o’r ŵyl. Mae hi’n artist o ganolbarth Cymru. Mae hi’n aros o fewn cyfuniadau traddodiadol a gwerinol Cymraeg ond wedi gweithio ar drac electronig gydag Efa Supertramp (Killdren) yn ddiweddar.

£17.50

NOSON 3 – 28/08

  • GWENNO
  • ISLET
  • PYS MELYN

Mae Gwenno yn artist electronig amlwg iawn yn y sin Gymraeg. Yn arfer bod yn rhan o’r Pipettes ac wedi bod ar ‘tour’ efo Elton John pan roedd hi’n rhan o’r grŵp Pnau mae hi’n berfformiwr ardderchog a phrofiadol. Mae hi nawr yn canu caneuon mewn Cernyweg a Chymraeg gyda thraciau mawr fel Patriarchaeth a Hi a Skoellyas LIV a Dhagrow.

Mae Islet yn fand sy’n cael ei ddisgrifio fel creu sŵn sinematig. Yn dod o Bowys, mae’r band yn defnyddio cymysgedd o psych, gwerin ac electronig ac yn unigryw yn y modd fod y gerddoriaeth yn newid mor drastig yn ôl newidiadau mewn bywyd i’r aelodau band.

Mae Pys Melyn yn fand ifanc o Ben Llŷn. Maen nhw’n ifanc, yn arbrofol ofnadwy ac yn seicadelig iawn, yn cael ei adnabod yn debyg i Dri Hŵr Doeth, Pasta Hyll a llawer o’r gwaith yn Noddfa. Mae eu can newydd jazzlyd Londis Ffor oddi r ei EP yn ffefryn ar y radio ar hyn o’r bryd.

£17.50

NEU £35 YN RHAN O’R TOCYN PENWYTHNOS.

Mi fydd yn ŵyl ardderchog gyda theimlad Pan-geltaidd gan ddod a llawer o berfformwyr mawr i’r ardal. Mae’n gyfle eto i bobl fynd allan i wneud ffrindiau a chreu profiadau. Ar ôl y flwyddyn erchyll ’ma, ewch allan i fwynhau, creu a chlywed straeon difyr am bris rhesymol iawn.

Mae mwy o wybodaeth am sut i drefnu tocynnau ar gael yma.

Pob lwc i’r ŵyl!