Gyda’r dilyw wedi mynd heibio manteisiodd criw’r Dyffryn Gwyrdd ar ddiwrnod o heulwen i rannu gwybodaeth am gyfleoedd amgylcheddol a chymunedol yn nyffryn Ogwen.
Daeth trigolion ynghyd yn Llys Dafydd gyda stondinwyr yn rhannu gwybodaeth am Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau, Rhandiroedd Cymunedol Tregarth, Sied Cyn-Filwyr Bethesda, Llais y Goedwig, Bwyd Bendigedig Rhiwlas, Blodeuwedd Botanicals a Siop Bwydydd Cyflawn Bethesda.
Bywyd a bwrlwm
Roedd y diwrnod yn gyfle’i amlygu’r holl waith anhygoel sy’n digwydd ar hyd y lled y dyffryn a hefyd i gymdeithasu yn ddiogel mewn gofod awyr agored.
Meddai Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen: “Mae hi’n grêt gweld bywyd a bwrlwm yn dychwelyd i Lys Dafydd a gweld pobl yn mwynhau sgwrsio efo’i gilydd.
“Rydan ni’n ddiolchgar iawn i’r Cyngor Cymuned am ganiatáu defnydd o’r gofod ac i’r holl bobl a weithiodd yn galed i sicrhau diwrnod hwylus a llwyddiannus.”
Diolch o galon i Penny a Mike Bwyd i Bawb am y lluniaeth ac i Barbara a’r Band am y gerddoriaeth.