Gwelliannau i ganolfan ailgylchu Stad Llandygai

Buddsoddiad o £225,000 i uwchraddio’r ganolfan a fydd yn cynnwys siop uwchgylchu deunyddiau 

Carwyn
gan Carwyn

Mae gwaith ar gychwyn i gyflwyno gwelliannau sylweddol i ganolfan ailgylchu lleol Cyngor Gwynedd.

Bydd y gwelliannau yn golygu ymestyn maint y ganolfan ar Stad Ddiwydiannol Llandygai er mwyn cynnig gwell cyfleon ailgylchu i drigolion ynghyd a datblygu siop o’r newydd ar gyfer ail-ddefnyddio ac uwchgylchu deunyddiau ar y safle. Mae’r gwaith yn cael ei ariannu trwy grant Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.

“Mae’r ganolfan ailgylchu ar Stad Llanydygai yn hynod boblogaidd ac mae’r staff yno yn cynnig gwasanaeth croesawgar i drigolion Bangor a Dyffryn Ogwen sy’n gwneud defnydd o’r safle,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd.

“Yn wir, ers i’r ganolfan ail-agor dan drefniadau apwyntiadau ar ôl y clo mawr cyntaf, mae ymhell dros 15,000 o bobl wedi gwneud defnydd o’r ganolfan ailgylchu. Mae hi felly yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau fod y ganolfan yn hollol addas ac yn ddiogel i staff a defnyddwyr.

“Fel rhan o welliannau gwerth £225,000 i ganolfan ailgylchu Bangor, byddwn yn cyflwyno siop uwchgylchu ar y safle pan fydd yn ail-agor a fydd yn cynnig cyfleoedd i ni gydweithio gyda phartneriaid i dorri lawr ar faint o ddeunyddiau sy’n cael eu lluchio am byth. Bydd gwelliannau hefyd yn cynnwys mynedfa ac allanfa newydd bwrpasol ar gyfer y ganolfan.

“Mae canolfan ailgylchu Bangor wedi bod ar agor am ryw bymtheng mlynedd bellach, ac felly mae’n synhwyrol ein bod yn cyflwyno gwelliannau i sicrhau ei fod yn cyfarch anghenion trigolion heddiw ac yn addas ar gyfer ein gweledigaeth i fod yn ail-ddefnyddio llawer mwy o ddeunyddiau i’r dyfodol, fel rhan o’r siwrne i fod yn sir ddi-wastraff.

“Er mwyn cyflawni’r gwelliannau yma, bydd angen cau y ganolfan dros-dro o 8 Mawrth tra bod y gwaith yma yn cael ei gwblhau. Rydan ni’n gwerthfawrogi y bydd hyn yn cael effaith dros-dro ar rai o breswylwyr yr ardal a bydd trefniadau i ymestyn oriau agor canolfan Caernarfon yn ystod y cyfnod yma, ac rydan ni’n grediniol y bydd canolfan Bangor ar ei newydd wedd yn cynnig gwell adnodd i bawb.”

Bydd y ganolfan ailgylchu ar gau dros-dro o ddydd Llun, 8 Mawrth tra bod gwelliannau yn cael eu cwblhau ar y safle. Mae’r Cyngor yn disgwyl y bydd modd ail-agor canolfan ailgylchu Bangor yn rhannol o ganol mis Mai ymlaen, gyda’r safle yn ailagor yn llawn erbyn canol Mehefin.

Yn ystod y cyfnod pan fydd y gwelliannau yn cael eu cynnal ym Mangor, bydd Canolfan Ailgylchu Caernarfon ar stâd ddiwydiannol Cibyn ar agor am oriau estynedig, gydag amseroedd ar gael i’w harchebu ymlaen llaw rhwng 8am a 7pm o ddydd Llun i Sadwrn.

Mae angen trefnu apwyntiad o flaen llaw i fynychu canolfannau ailgylchu’r Cyngor – gellir gwneud hynny ar wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu neu drwy lawrlwytho ‘apGwynedd’ i’ch ffon glyfar neu ddyfais llechen.