Mae ardal Dyffryn Ogwen yn amlwg iawn yng ngwaith diweddaraf yr artist sydd wedi gwneud ei gartref yn lleol.
Fel rhan o arddangosfeydd gwanwyn yn Storiel, Bangor mae casgliad ‘Bro Gynefin’ Darren yn ddarluniau siarcol a chyfrwng cymysg, paentiadau olew a phrintiau ysgythru sychbwynt sy’n archwilio bröydd cynefin yr artist – gyda golygfeydd o Fethesda, Ynys Môn a Môr Iwerddon.
Ysbrydoliaeth
“Y man cychwyn i’r corff cyfan hwn o waith oedd ail-asesu fy ymarfer tua tair mlynedd yn ôl,” meddai wrth sôn am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’w waith diweddaraf.
“Gwnaeth synnwyr i fynd nôl i’r cychwyn a rhoi ffocws ar yr elfen sylfaenol o wneud llun. Mae’r darnau yn yr arddangosfa yn ymateb i le rwy’n byw yn ardal Bethesda, a hefyd i Bentraeth ym Môn lle cefais fy magu.”
Arddangosfeydd y gwanwyn
Dywedodd Delyth Gwawr Williams, Swyddog Celfyddydau Gweledol Cyngor Gwynedd: “Rydym wrth ein boddau yn gallu lansio ein harddangosfeydd y gwanwyn yma’n Storiel drwy arddangos gwaith campus newydd gan Darren Hughes.
“O baentiadau olew mawr a bach i ddarluniau mawr trawiadol o siarcol, mae’r arddangosfa yma’n un hyfryd.”
Ail-agor
Mae amgueddfa ac orielau celf Storiel wedi ail-agor ers rhai wythnosau, ond rhaid archebu eich lle cyn ymweld drwy fynd ar wefan Storiel – neu gellir ffonio 01248 353 368 yn ystod oriau agor, (11am-5pm ar ddyddiau Mawrth i Sadwrn).
Wrth ymweld, bydd angen parhau i ddilyn rheolau Covid-19 Llywodraeth Cymru i gadw pawb yn ddiogel.
Gallwch hefyd weld yr arddangosfa yma’n rhithiol hefyd o’ch cartref.
Mae gwaith Darren i gyd ar werth ac mae Cynllun Casglu ar gael yn Storiel.