Mam Frankie Morris yn apelio am wybodaeth

Gwelwyd y llanc 18 oed ger tafarn y Faenol ym Mhentir ar 2 Mai

Carwyn
gan Carwyn
1FA37C72-7DD1-4782-80F0

Mae mam František ‘Frankie’ Morris, sy’n ei arddegau sydd ar goll, wedi pledio o’r galon i unrhyw un a allai fod â gwybodaeth am ei leoliad, i ddod ymlaen.

Cafodd Frankie, sy’n dod o Landegfan ar Ynys Môn, ei weld diwethaf ger y dafarn ym Mhentir am 1:12pm ddydd Sul, 2 Mai.

Allan o gymeriad

Dywedodd ei Fam, Alice Morris: “Mae bellach wedi bod ar goll ers 27 diwrnod ac mae’n gwbl allan o gymeriad iddo fod i ffwrdd am unrhyw gyfnod heb gysylltu â rhywun.

“Rwy’n arswydo bod rhywun wedi niweidio fy mab hardd ond rwy’n sylweddoli, ar ôl cyfnod mor hir, fod posibilrwydd nad yw’n fyw mwyach.

“Helpwch fi i ddod o hyd iddo drwy roi unrhyw wybodaeth sydd gennych i’r heddlu.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cynnig gwybodaeth neu wedi cefnogi neu ymuno â’r chwiliad am Frankie, mae gennych fy niolch o’r galon.”

Pedair wythnos ers i Frankie gael ei weld

Ychwanegodd Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae pedair wythnos bellach ers i Frankie gael ei weld diwethaf ac rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un a allai fod â gwybodaeth i ddod ymlaen.

“Mae’n ddealladwy bod teulu Frankie yn ofidus iawn, ac rwy’n parhau i apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth o gwbl i siarad â ni. Waeth pa mor ddibwys yr ydych yn meddwl yw’r wybodaeth, efallai mai dyma fydd y darn rydyn ni’n chwilio amdano, gwnewch yr alwad honno er mwyn Frankie a’i deulu.

“Mae’r ymchwiliad i ddod o hyd i Frankie yn parhau ac mae swyddogion yn ddiolchgar am y wybodaeth a dderbyniwyd hyd yn hyn.

“Os oes gennych unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth, cysylltwch â’r tîm ymchwilio yn uniongyrchol yma https://mipp.police.uk/operation/60NWP19A03-PO1