Follow Me – y sengl a grewyd dros y we

Erthygl sy’n son am y broses o greu, cynhyrchu a marchnata cerddoriaeth drwy unrhyw modd sydd angen.

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard
Album art Follow Me

celf cerddoriaeth ar gyfer Follow Me

Beth yw’r sengl a phwy greodd hi?

Mae Dafydd Hedd ac Iestyn Gwyn Jones yn ddau artist ifanc o Fethesda a Chaerdydd. Mae Dafydd wedi eisoes bod yn gweithio ar EP newydd dros y cyfnod o’r enw Yr Ifanc Sy’n Neud Dim Byd, ond mi roedd un can ddim i weld yn ffitio’n iawn yn y casgliad. Teimlai Dafydd fod angen datblygu yn fwy ar y gan ar ôl ei hysgrifennu, yn eisiau fwy o deimlad emffatig ac fel petai fod rhywbeth yn adeiladu tuag at rywbeth mawr yn y cytgan. Digwydd bod, roedd Dafydd yn adnabod cynhyrchydd o Gaerdydd gyda chefndir mewn sioe gerdd o’r enw Iestyn Gwyn Jones. Roedd y ddwy wedi dod yn agos iawn yn gerddorol gan gyd-weithio ar gan rhyngddynt o’r enw Strydoedd, ac wedi dod i edmygu ei broses creadigol. Ar ôl llawer o alwadau FaceTime, perfformiadau a sgyrsiau am gyfeiriad y gan, mae’r sengl newydd yn dod allan ar ddydd Gwener, yr 2il o Ebrill.

Broses o greu’r sengl:

Enw’r gan yw Follow Me, a digwydd bod dechreuodd y sbardun am y gan yma ar alwad FaceTime arall. Mae ffrindiau Dafydd yn hoff iawn o chwarae medliau gwahanol o ganeuon pop modern EDM fel Firestone, ac ar ôl clywed un o medliau ei ffrindiau (sydd eisiau aros yn ddienw), ddaru Dafydd drio chwarae o gwmpas gyda chordiau piano, rhywbeth gwahanol iawn i licks blues gitâr arferol y cerddor. Wrth feddwl am fywyd, ddaru fo sylwi ar y syniad fod mewn gwirionedd, mae’r angerdd bodol o eisiau mwy ac eisiau gwella yn gallu bod yn rhywbeth da a drwg ofnadwy. Mewn hinsawdd o ddiobaith lle’r oedd llawer o bobl yn cael ei gymryd mantais ohono, yn gweld sawl eitem drychinebus yn y newyddion, sylwodd ar gylchred mewn dynoliaeth. Mae’r un peth yn gallu cael ei ddweud am obaith, yn rhywbeth defnyddiol ac angenrheidiol ond hefyd yn gallu fod yn rhywbeth sy’n ein brifo os nid yw’n cael ei foddhau. Mae’r llinell “so you can follow me, follow me, follow me forever” yn ceisio cyfleu’r anghyfiawnder a’r tristwch o fewn gobaith, ond ar yr un pryd yn cyferbynnu hynny gyda neges fwy cadarnhaol o “so you can follow me, fall for me, things will get better”. Roedd y syniad wedi dod o ryw bersona unig mewn cwt ar lan y môr rhywle gyda niwl tu allan. Mae’r person yma yn teimlo angerdd rhywsut gan ysbryd dynoliaeth i ddod tu allan ac i’w ddilyn mewn cylch am anfeidredd. Mae’n cerdded gymaint nes bod y tywod yn cael ei ddadleoli gymaint nes bod y person mewn twll ni ellir ddod allan ohono, a dyna oedd sbardun ar gyfer y geiriau.

Cerddoriaeth a chynhyrchu:

Ar y dechrau, roedd y gerddoriaeth yn un gyda rhythm llawer mwy pigog a funky na beth sydd wedi dod allan ohoni nawr. Roedd wastad di bod syniad o ailadrodd a dron trwy gydol y sengl er mwyn cyfleu difaterwch bywyd pob dydd. Datblygiad newydd oedd sôn am hyn gydag Iestyn. Roedd o’n ofn bod cadw’r gan yn rhy syml yn creu gormod o wacter, ac yn y diwedd, rhaid cyfaddef ei fod o’n iawn. Ar ôl sôn gydag Iestyn, adeiladodd y gan gyda riff gitar dechreuol, pigo distawar nodau uchel er mwyn creu tensiwn, riff newydd fwy pigog gyda drymiau llawer mwy pwerus ar ôl y gytgan gyntaf, delay ar linell cyn y gytgan er mwyn creu emosiwn a defnyddio’r syniad o rhagrwyddo beth sydd i’w ddod. Gyda help Iestyn, a’i sgiliau chwarae a recordio arbennig yn ei stiwdio, ddaru’r gan ddod allan yn swnio llawer mwy llawn a barod i’r cyhoedd. Un peth doeddwn i ddim wedi cytuno arno ar y pryd oedd dyblu’r llais, ond yn y diwedd, roedd hi’n syniad ardderchog i’w gynnwys. Mae’r persona yn llawer tebycach i’r ysbryd oedd yn fy meddwl i wrth greu’r geiriau, ac mae hyn yn elfen mae sawl critig fel Sarah Wynne wedi rhoi sylwad manwl tuag at.

Marchnata:

Mae ysgrifennu’r erthygl hon am y broses o greu’r sengl ar wefannau bro yn rhan arall ohoni. Yn ychwanegol i hyn, rydym wedi creu fideo cerddorol gyda rhai olygfeydd yng Nghaerdydd a rhai ym Methesda sy’n dod allan yr wythnos sy’n olynol i’r 2il o Ebrill. Yn ychwanegol i hyn, rydym wedi creu teaser videos gyda aestetig sun and moonlight. Mae y rhain ar gael ar ein mannau cymdeithasol (@dafyddhedd) (@iestyngwynjones).

Barn pobl ‘pwysig’:

Dyma rhai o’r pethau mae pobl wedi dweud am y sengl:

Elis Derby – artist, Elis Derby

Mae Dafydd Hedd yn artist sydd wedi parhau i gadw’n brysur yn ystod blwyddyn heriol eithriadol i berfformwyr- boed hynny trwy arwain podcast “Y Calendr”, neu lwyfannu gigs rhithiol ar ei dudalen Instagram. Y sengl “Follow Me” yw’r ychwanegiad diweddaraf i ganon y cerddor o Fethesda. Dwi wastad wedi ystyried cerddoriaeth Dafydd i fod â naws reit bluesy, a’n seiliedig yn bennaf ar sŵn gitar gritty, felly roedd clywed piano fel y prif offeryn

yn chwa o awyr iach. Mae ei lais unigryw yn gweddu’n hyfryd gyda chordiau melancolig y gân, sy’n creu awyrgylch llwm a thywyll, er bod y geiriau’n cyferbynnu; “Follow me, things will get better”. Teimlaf bod angen rhoi sylw i’r cynhyrchu yn ogystal, gyda’r reverb trwm ar y gitar cefndirol yn ychwanegiad perffaith i’r awyrgylch atmosfferig. Er mor hoff oeddwn o’r cynhyrchu a’r offeryniaeth, teimlaf y bysai’r gân wedi elwa o fwy o ddatblygiad cerddorol, drwy ychwanegu mwy offerynnau hyd at y diwedd er enghraifft, neu gyflwyno adran gwbl newydd. Oni bai am hynny, o’n safbwynt i, dyma’r enghraifft fwya’ aeddfed o waith Dafydd Hedd hyd yn hyn, a’n gam ymlaen i gyfeiriad gwahanol. Edrychaf ymlaen at glywed mwy o beth sydd gan y cerddor ifanc i’w gynnig.

Ifan Pritchard – artist, Gwilym

Mae gallu chdi (Dafydd) i sgwennu yn anhygoel, Ma’n honestly’n class! Hooks chdi on point! Ma na gwpl o betha’ o ran production elli di wella o ran y trac, pethau bach iawn fel cymysgu drums a general compression ac ati, ond ma’n just yn swnio’n class! Da iawn.

Sarah Wynne Griffiths – MonFM

Keep up the good work! Serious! Mae’r gan yn wow! (review ffurfiol ar ei ffordd hefyd)

Lle fedrai wrando arni?

Fydd y gan ar gael o’r 2il o Ebrill ymlaen ar bob platfform cyhoeddus digidol. Yn anffodus nid oes digon o arian arnai er mwyn gallu rhyddhau CDs ond mae’n debyg fydd y trac hwn ar yr EP newydd fel bonus track os byddaf yn ei rhyddhau hi ar ffurf CD. Edrychwch allan ar gyfryngau cymdeithasol @dafyddhedd a chewch y linc at y trac.

Mwynhewch y gerddoriaeth.