Mae ffens newydd wedi ei chodi yn ardal Tyddyn Canol yn Rachub yn ddiweddar.
Codwyd y ffens wedi dymchwel hen wal frics blêr ar lain werdd yn y pentref.
Yn y llun uchod, dangosir y cynghorydd lleol Paul Rowlinson gyda’r ffens newydd.
Roedd yr hen wal yn creu problemau gan fod cerbydau yn ei tharo oherwydd bod y ffordd mor gul ger ystâd Tyddyn Canol.
Aeth y Cyngor ati i glirio’r lle pan oedd rhan o’r wal wedi syrthio.
Mae Paul Rowlison wedi diolch am ymateb cadarnhaol Adra am osod ffens ddeniadol newydd, yn ogystal â chyrb newydd.
Mae rhai yn amlwg yn llai hapus gyda’r wal newydd.