Eglwys Glanogwen ar gau am y tro

Yr eglwys a’r fynwent ym Methesda ar gau am resymau ‘iechyd a diogelwch’

Carwyn
gan Carwyn

Yn dilyn archwiliad diweddar o’r adeilad, canfuwyd fod cyflwr y clochdy a’r twr yn beryglus ac angen sylw brys.

Am y tro felly, mae Eglwys Glanogwen ym Methesda a’r fynwent ar gau i’r cyhoedd allan am resymau iechyd a diogelwch. Mae giatiau ar gau a rhybuddion i gynghori’r cyhoedd.

Mewn neges ar ran yr eglwys ar y cyfryngau cymdeithasol pwysleisir mai sefyllfa dros dro yn unig yw hyn, nes cael manylion am yr union waith sydd ei angen i wneud yr adeilad yn ddiogel.

Ond nodir na fydd modd cynnal Cymun Sul y Pasg fel y bwriadwyd.