Mae disgyblion ar draws y wlad wedi anadlu anadl o ryddhad, ac yn eu plith mae Cerys Elen.
Bellach, mae hi wedi cyhoeddi y bydd myfyrwyr yn derbyn graddau o’u hysgol neu goleg yn seiliedig ar waith maen nhw’n ei gwblhau dros gyfnod eu cwrs.
Mae’r cyhoeddiad yn rhyddhad i Cerys Elen, er y teimlai bod y cadarnhad wedi dod braidd yn hwyr.
“Mae o’n rong bod nhw wedi disgwyl mor hir”
“Mae o’n rong bod nhw wedi disgwyl mor hir,” meddai’r disgybl blwyddyn 11 o Ysgol Dyffryn Ogwen.
“Dylai nhw wedi gwneud y cyhoeddiad cyn ‘Dolig i bawb gael ei brosesu fo a meddwl – tymor newydd, dechrau newydd.
“Doedd o ddim yn neis… ddim yn gwybod be oeddech chdi fod i wneud, adolygu, gwneud gwaith, gadael o a gwario mwy o amser ar waith ysgol? Roedd o dipyn bach yn confusing.
“Y munud ddoth o allan, oedd o’n fwy o foment lle oni’n meddwl – reit dwi’n gwybod be dwi angen gwneud rŵan, dwi’n gwybod be sydd yn mynd i ddigwydd ac mae o’n rhyddhau fi fwy i allu canolbwyntio ar waith cwrs.
“Mi fydd hynny’n dangos i gyflogwyr, i Brifysgolion ac i’r chweched, mod i’n allu cadw safon fy ngwaith i fyny am amser hi a thrio fy ngorau dros gyfnod hir o amser.”