Dyffryn Ogwen yn cloi taith Bardd Cenedlaethol Cymru

Ifor ap Glyn a 9Bach yn rhan  o’r digwyddiad i ddathlu treftadaeth ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru

Carwyn
gan Carwyn
LleCHIy
E11EacDXoAQ9YEO

Bydd yr olaf mewn cyfres o ddigwyddiadau cymunedol i ddathlu treftadaeth ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru yn canolbwyntio ar Ddyffryn Ogwen nos Sadwrn yma (29 Mai).

Dyma’r chweched sesiwn gyda’r bardd Ifor ap Glyn ar ei daith o gwmpas ardaloedd y llechi i ddysgu mwy am yr hanes ac i glywed sut mae’r ardal wedi ysbrydoli gwaith newydd gan feirdd a cherddorion lleol mewn sgyrsiau gyda’r artistiaid.

Mae’r daith wedi ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru a Chyngor Gwynedd i ddathlu archaeoleg ddiwydiannol ardaloedd chwarelyddol, a’u gwaddol diwylliannol sylweddol, yn llenyddol, yn gerddorol ac yn ysbrydol.

Yn ystod haf eleni, bydd UNESCO yn penderfynu os yw Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn haeddu statws Safle Treftadaeth Byd.

LleCHI

Ochr yn ochr â’r cais hwnnw, sicrhawyd arian trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cronfa Partneriaeth Eryri ac Arloesi Gwynedd Wledig ar gyfer prosiect LleCHI sydd wedi bod yn gweithio ar draws cymunedau chwarelyddol Gwynedd i geisio grymuso, ail-gysylltu ac adfywio’r cymunedau hynny trwy dreftadaeth.

“Mae’r enwebiad a phrosiect LleCHI sy’n plethu â’r awydd i ddathlu diwylliant a threftadaeth yr ardal yn gyfle i ni ddathlu cyfraniad unigryw tirlun, cymunedau, busnesau a phobl Gwynedd wrth roi to ar y byd,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Datblygu’r Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd.

Ychwanegodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae’n wybodus i lawer ohonom cymaint yw cyfraniad pwysig ardal y chwareli at ddiwylliant llenyddol Cymru.

“Braf yw gweld Ifor ap Glyn, yn ei rôl fel Bardd Cenedlaethol Cymru, yn ein tywys ar y daith rithiol hon er mwyn i ninnau, ac eraill, ddysgu mwy am dreftadaeth unigryw yr ardaloedd hyn wrth i ni aros am ganlyniad y cais UNESCO.”

Nosweithiau ‘Zoomunedol’

Mae Ifor ap Glyn wedi bod yn cynnal taith gerdded o amgylch ardaloedd chwarelyddol Gwynedd, gan gynnal cyfres o nosweithiau ‘Zoomunedol’ digidol yn ystod y daith.

Mae pob un o’r nosweithiau cymunedol wedi cynnwys crynodeb o hanes chwarelyddol yr ardal gan yr hanesydd Dr Dafydd Gwyn, yn ogystal â darllediadau cyntaf o gân neu gerdd newydd gan artist lleol, gan gynnwys sawl enw cyfarwydd – gyda 9Bach yn y sesiwn ar gyfer Dyffryn Ogwen.

Mae enw cyfarwydd arall i’r ardal, Manon Steffan Ros i’w gweld mewn sesiwn sy’n canolbwyntio ar ardal Abergynolwyn.

I ymuno gyda’r digwyddiad fydd ymlaen am 7pm nos Sadwrn gyda Lisa Jên a 9Bach, cliciwch yma.