Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi agor lle mae cyfle i drigolion a mudiadau fynegi barn am bwerau rheoli cŵn yng Ngwynedd.
Fel rhan o’r ymgynghoriad a fydd ar agor tan 21 Mehefin, mae cyfle i chi ddweud eich dweud am sut i ddelio efo problemau baw cŵn, ac os oes yna leoliadau penodol lle dylid cyfyngu neu wahardd cŵn.
Gweithredu
“Mae baw cŵn yn rhywbeth sydd yn achosi pryder i drigolion ac mae’n bwysig ein bod ni fel Cyngor yn gweithredu ar y mater yma,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Briffyrdd a materion Bwrdeistrefol.
“Rydym wedi cynnal amryw o ymgyrchoedd i geisio lleihau’r digwyddiadau o faeddu ar ein strydoedd, ac rydym hefyd wedi bod yn darparu bagiau gwastraff cŵn am ddim i breswylwyr.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r mwyafrif o berchnogion cŵn yng Ngwynedd, sy’n ofalus iawn ac yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes. Yn anffodus, mae yna rai perchnogion o hyd sy’n gadael baw eu cŵn neu fagiau gwastraff llawn i eraill gael delio efo. Tydi hyn ddim yn dderbyniol, a gellir rhoi dirwyon sylweddol am ymddygiad o’r fath.”
Cyfyngu
Ond nid baw ci yn unig sydd dan ystyriaeth – mae’r Cyngor hefyd yn awyddus clywed eich barn ar leoliadau posib i gyfyngu lle gall perchnogion fynd a’u cŵn fel yr esbonia’r Cynghorydd Wager.
“Byddwn hefyd eisiau clywed barn pobl am ardaloedd lle mae cŵn wedi cael eu cyfyngu neu y dylid eu cyfyngu, megis tir yr ysgol, ardaloedd chwarae plant a thraethau penodol,” ychwanega.
“Rwy’n gwybod bod gan bobl deimladau cryf am faw cŵn a chyfyngiadau cŵn, ac rwy’n annog trigolion lleol i rannu’r safbwyntiau hynny gyda ni – os ydych yn berchen ar gi neu beidio – er mwyn helpu ni i sicrhau bod y trefniadau newydd yn cwrdd ag anghenion lleol.”
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yma, neu, mae copïau papur ar gael o lyfrgelloedd lleol Gwynedd.