Pwy sy’n dwad dros y bryn?

Taith Siôn Corn ar hyd cymunedau’r Dyffryn

Carwyn
gan Carwyn
76673F0A-5C14-4914-8DBD

Cofiwch y bydd Siôn Corn a’i gorachod yn teithio ar hyd a lled cymunedau Dyffryn Ogwen nos Lun yma, 13 Rhagfyr!

Mae’r daith a’r gweithgareddau wedi eu trefnu gan Bwyllgor y Carnifal. Bydd manylion amseroedd y mae disgwyl i’r dyn ei hun deithio  yn cael eu rhestru ar dudalen Facebook y Carnifal.

Bydd y daith yn cychwyn am 4.30pm ac mae croeso hefyd i chi fynd draw i ganu carolau gyda Chôr y Penrhyn y tu allan i Ganolfan Cefnfaes am 7pm. Bydd diodydd a da-das i’r plant, a gwin cynnes i’r oedolion!

Felly cofiwch godi llaw a byhafio nos Lun os ydych chi eisiau anrhegion fore ’Dolig!