Ditectifs yn parhau i chwilio am Frankie

Gwelwyd o ddiwethaf ger tafarn ym Mhentir

Carwyn
gan Carwyn
1FA37C72-7DD1-4782-80F0

Mae heddlu’r gogledd yn dweud fod ditectifs yn parhau i ymchwilio i leoliad Frantisek “Frankie” Morris, a welwyd diwethaf ger tafarn y “Vaynol Arms”, Pentir am 1.12pm ddydd Sul, 2 Mai.

Dywedodd Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r gymuned am y cannoedd o alwadau ffôn ac adroddiadau ar-lein a gawsom mewn ymateb i’n hapêl flaenorol. O ganlyniad rydym yn archwilio nifer o wahanol linellau ymholi.

“Hoffwn apelio’n uniongyrchol at unrhyw un a fynychodd ‘rave’ yn yr hen chwarel uwchben Waunfawr ddydd Sadwrn 1 Mai, sydd heb ddod ymlaen i wneud hynny’n barod. Yr wyf yn deall y gallai pobl fod yn amharod oherwydd nad oedd y ‘rave’ yn ddigwyddiad wedi’i drefnu, ond hoffwn eich sicrhau mai dim ond diddordeb mewn casglu cymaint o wybodaeth am symudiadau Frankie â phosibl ydym.

“Os wnaethoch fynychu’r ‘rave’ a bod gennych unrhyw luniau neu fideo o gwbl ar eich ffôn symudol, neu os oes gennych unrhyw wybodaeth waeth pa mor fach bynnag, a allai ein helpu, gallwch ymweld â’r wefan hon. Byddwch yn gallu trosglwyddo gwybodaeth neu lanlwytho delweddau / fideo yn uniongyrchol i’r tîm ymchwilio n gwbl ddienw.

“Bydd trigolion Pentir wedi sylwi ar fwy o bresenoldeb gan yr heddlu yn yr ardal dros y dyddiau diwethaf, a fydd yn parhau. Os oeddech yn yr ardal ddydd Sul 2 Mai, ac wedi gweld Frankie, cysylltwch â ni, yn enwedig os oes gennych gamera cerbyd neu unrhyw fath arall o fideo.

“Yn olaf, byddwn yn gofyn i drigolion Pentir a’r ardaloedd cyfagos edrych mewn unrhyw siediau neu adeiladau’r tu allan ar eu tir, a chysylltu â ni os byddwch yn dod o hyd i unrhyw beth anghyffredin.”