Dewi Morgan i fod yn Bennaeth Cyllid newydd Cyngor Gwynedd

Wedi gweithio ei ffordd o rôl hyfforddai, mae Dewi bellach wedi gwireddu breuddwyd chwarter canrif wrth ddod yn brif swyddog ariannol yr awdurdod

Carwyn
gan Carwyn
DewiMorgan

Mae un o wynebau cyfarwydd Dyffryn Ogwen wedi ei benodi yn Bennaeth Cyllid newydd y Cyngor Sir, a bydd yn cychwyn ar y gwaith yn y flwyddyn newydd.

Mae Dewi Morgan yn wyneb cyfarwydd i lawer, ac wedi cefnogi a gwirfoddoli gyda nifer o sefydliadau yn lleol yma yn Nyffryn Ogwen.

Wedi ei fagu ym Methesda, gan fynychu ysgolion cynradd Abercaseg a Pen-y-bryn ac Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen, cymhwysodd gyda gradd mewn Mathemateg o Brifysgol Aberystwyth.

Gwireddu breuddwyd

“Mae’n anrhydedd o’r mwyaf cael fy newis i’r rôl bwysig hon,” meddai Dewi wrth gael ei benodi.

“Ers i mi ymuno ag Adran Trysorydd Cyngor Sir Gwynedd yn 1994 fel hyfforddai, mae wedi bod yn bleser cael bod yn rhan o dîm mor ymroddgar a phroffesiynol, ac mae cael fy mhenodi’n Bennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn wireddu breuddwyd sydd wedi bod gennyf ers dros chwarter canrif.

“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi fy nghefnogi a’m cynorthwyo ers i mi gychwyn fy ngyrfa mewn llywodraeth leol.

“Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn digwydd ac i arwain y tîm talentog o swyddogion yn yr adran.”

Profiad helaeth

Cymhwysodd Dewi fel Cyfrifydd gyda’r Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Gyhoeddus (CIPFA) yn 1998, ac mae’n Is-Lywydd cangen CIPFA Cymru ar hyn o bryd.

Wrth ei longyfarch ar ei benodiad, dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid: “Fel Cyngor, mae gan Gwynedd enw da iawn am reolaeth ariannol ofalus er gwaetha cynnydd mewn galwadau am wasanaethau a thoriadau cyson i gyllidebau, ac mae Dewi wedi chwarae rôl bwysig yn y tîm sydd wedi sicrhau’r llwyddiant hyn.

“Rydw i’n falch o benodiad Dewi – mae ganddo brofiad helaeth o’r maes cyllid mewn llywodraeth leol ac mae bob amser yn bleser gweithio gydag o. Rydw i’n edrych ymlaen at fwy o gyd-weithio i’r dyfodol.”