Dechrau ar y brechu

Newyddion gobeithiol am gychwyn y broses brechu rhag Coronafeirws

Carwyn
gan Carwyn

Mae Canolfan Feddygol yr Hen Orsaf wedi cyhoeddi fod y gwaith o frechu cleifion gyda brechlyn Covid-19 wedi cychwyn. 

Mewn neges ar eu cyfrif Facebook, dywedwyd y bydd cleifion mewn cartrefi gofal yn cael eu brechu gyntaf, cyn cychwyn brechu unigolion sydd yn 80 oed neu yn hyn. 

“Bydd y cleifion yma’n cael eu galw i’r feddygfa neu i ysbyty Enfys, Bangor,” meddai’r neges.

“Fe fydd tîm y nyrsys cymunedol yn ein helpu i frechu y cleifion sydd yn gaeth i’w cartref.

“Byddwn yn cysylltu hefo’r cleifion yn eu tro, felly plîs peidiwch â ffonio’r feddygfa, gan fod y llinellau ffôn yn brysur iawn, ac mae angen i’r staff fedru derbyn galwadau gan y cleifion hynny sydd angen cyngor meddygol.

“Yr ydym yn gweithio mor gyflym â phosib, ac yn cydweithio hefo’r meddygfeydd eraill yn Arfon a Môn yn ogystal â’r Bwrdd Iechyd.

“Mae’r gwaith yn ddibynnol ar faint o’r brechlyn sydd yn cael ei ddosbarthu i ni.”

Newyddion gobeithiol i bawb ar ddechrau’r flwyddyn – gan obeithio am well 2021!