Bydd cyfle i drigolion a busnesau’r ardal ddod i ddeall mwy am enwebiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru mewn sesiwn rithwir fydd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y mis. Bydd y digwyddiad ar-lein a fydd yn cael ei gynnal ar 18 Mai yn cynnwys:
- Cefndir y cais a’r cyd-destun
- Pam fod y cais wedi ei gyflwyno a pham fod ardal tirwedd chwarelyddol Gwynedd yn deilwng am ddynodiad Safle Treftadaeth y Byd
- Gwaith cymunedol LleCHI
- Cwestiynau Cyffredin
- Sesiwn Holi ac Ateb
Bydd swyddogion o Gyngor Gwynedd sy’n arwain ar y cais yn rhan o’r digwyddiad, ynghyd a chynrychiolwyr o bartneriaid allweddol y prosiect. Cynhelir y digwyddiad am 6pm ar nos Fawrth, 19 Mai fel gweminar dros Zoom. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael – a chyntaf i’r felin. Mae mwy o fanylion am gadw eich lle ar gael yma. Bydd darpariaeth cyfieithu ar y pryd ar gael o’r Gymraeg i Saesneg – mae’r trefnwyr yn gofyn i rheini fyddai angen y ddarpariaeth i roi gwybod o flaen llaw drwy e-bostio llechi@gwynedd.llyw.cymru.