Cystadleuaeth ar gyfer plant ysgolion cynradd

Ymestyn dyddiad cau ar gyfer cystadleuaeth 

Carwyn
gan Carwyn

Mae dyddiad cau ar gyfer cystadleuaeth i blant ysgolion cynradd Dyffryn Ogwen a Bangor wedi ei ymestyn, gan gynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i geisio cadw’r plant yn ddiddan.

Nod y gystadleuaeth ydi ceisio anghofio am 2020, ac edrych i ddyfodol mwy gobeithiol a chadarnhaol. Felly dyma gyfle i fod yn rhan o gystadleuaeth arbennig a meddwl yn greadigol am neges ewyllys da ar gyfer 2021.

Gall y neges fod ar ffurf llun, poster neu ddyluniad digidol ond gyda phwyslais ar obaith, caredigrwydd, brawdgarwch, undod a chariad.

Gan nad yw ysgolion wedi ailymgynnull ar ôl gwyliau’r Nadolig, mae Menter Iaith Bangor wedi penderfynu ymestyn dyddiad cau’r gystadleuaeth i ddydd Gwener, 29 Ionawr.

“Pwy well i gynnig negeseuon ewyllys da a gobaith i’n hysbrydoli ni i gyd na’r genhedlaeth nesaf sef y plant,” meddai Mair Rowlands, Cadeirydd Menter Iaith Bangor.

“Wrth feddwl am y dyfodol, mae popeth yn bosib, ac rydym am weld a darllen beth fydd eich negeseuon ewyllys da chi i bobl y byd. Felly ewch ati gyda’ch doniau dweud i’n symbylu ni.”

Gyda dau gategori i blant gystadlu, un i blant blynyddoedd 3 a 4 a’r ail i blant blynyddoedd 5 a 6, mae gwobr arbennig ar gael i’r 2 enillydd. Yn ogystal â hynny, gyda chefnogaeth Bangor First Bangor yn Gyntaf a chwmni Dafydd Hardy yr Arwerthwyr Tai, caiff y negeseuon ewyllys da llwyddiannus eu harddangos yn gyhoeddus mewn detholiad o ffenestri siopau gwag ar Stryd Fawr dinas Bangor.

Bydd dwy o aelodau Menter Iaith Bangor sef Menna Baines a Nia Roberts yn beirniadu’r gystadleuaeth a chyhoeddir yr enillwyr ar dudalen Facebook y Fenter.

Am fanylion pellach cysylltwch â neges@menteriaithbangor.cymru