Cynhyrchwyr Cadwyn Ogwen

Bob mis, byddwn yn rhoi sylw i un o’n cynhyrchwyr er mwyn i chi’n cwsmeriaid ddod i’w nabod yn well. Dyma ’chydig o gyfweliad byr hefo Colette Price o gwmni Cynnyrch Chwarel Goch. Mae nhw’n cynhyrchu amrywiaeth o gatwadau fel cordial, chytni, piclau, jam, ceuled, a’r shocker tanllyd afal, sinsir a turmeric enwog. Mae ’na blanhigion a bylbiau ar gael yn dymhorol hefyd.

Cadwyn Ogwen
gan Cadwyn Ogwen

Beth yw hanes Cynnyrch Chwarel Goch? 

Dwi di bod yn cadw cynnyrch gardd mewn jariau ers i mi fod yn blentyn. Un o’r pethau hen ffasiwn yna sydd wedi dod yn boblogaidd unwaith eto. Ac er ei fod wedi bod yn hobi erioed, mae’n ddefnyddiol iawn am fod gennym ormod o gynnyrch i ni’n dau.

Lle ’da chi’n gwerthu eich cynnyrch?

Mi wnes i ddechrau gwerthu gyntaf ym Marchnad Ogwen, Bethesda, ond ers Covid19 bellach mond yn gwerthu drwy Cadwyn Ogwen.

Ers faint ydych chi’n gwerthu cynnyrch ar Cadwyn Ogwen?

Rydym ni wedi bod hefo Cadwyn Ogwen ers mis Mehefin, wyth mis bellach!

Beth yw eich hoff gynnyrch a pha gynnyrch sydd fwyaf poblogaidd gan eich cwsmeriaid?

Wel, mae’n dibynnu! Yn y bore, mi fyddai’n hoff iawn o gael tost efo ceuled leim. Yn y pnawn, mae darn o gaws a chytni ffig mewn brechdan yn berffaith. Mae’r shocker afal wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’r cwsmeriaid yn ystod y tywydd oer. Mis yma, mae’r potiau bylbiau wedi bod yn boblogaidd, yn enwedig y Cennin Pedr ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Mae gan y cwsmeriaid eu ffefrynnau dwi’n siwr.

Beth yw’r peth gorau am werthu cynnyrch ar Cadwyn Ogwen?

Y peth gorau ydy ei fod mor hawdd i mi fel cynhyrchydd, ac i’r cwsmer. Ac mae’n wych fod y cerbyd trydanol yn danfon y cynnyrch. Mae’n f’atgoffa fi o fod yn ifanc, a mam yn cael ei nwyddau gan y groser i’r drws yn lle mynd allan i siopa drwy’r amser. Dwi yn methu cael cwrdd á’r cwsmeriaid, mae’n hyfryd cael sgwrs am fy nghynnyrch a chael adborth ganddynt, a syniadau newydd.

Am fwy o wybodaeth ac i archebu gan Cynnyrch Chwarel Goch :

Gwefan Hyrwyddo Dyffryn Ogwen Cynnyrch Chwarel Goch