Cynefin a Chymuned

Penwythnos o sgyrsiau a gweithgareddau i ddathlu a dysgu am ein diwylliant a hanes

Carwyn
gan Carwyn
1
8

Dr Dafydd Gwyn yn traddodi darlith agoriadol y penwythnos ar nos Wener.

2

Y Prifardd Ieuan Wyn agorodd y diwrnod gyda darlith ar thema Cynefin a Chymuned

3

Rebecca Hardy-Griffith, Darren Hughes, Sian Owen, Anna Pritchard ac Iwan Gwyn Parry fu’n trafod dylanwad Dyffryn Ogwen ar eu gwaith celf.

4

‘Crefft Gyntaf Dynol Ryw’ oedd teitl darlith Dafydd Fôn fu’n trafod amaethyddiaeth yn y Dyffryn.

5

Eleanor Harding a Lois Jones o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol oedd yn arwain y sgwrs am drefedigaethu a sut i gofnodi’r hanes anodd yma i ymwelwyr a’n cymuned.

6

Cafwyd darlith ddifyr am un o arwyr llenyddol y dyffryn – Caradog Pritchard – gan Menna Baines

7

Cafwyd cyfle i fwynhau cynnyrch Siop a Chadwyn Ogwen yn ystod y dydd ynghyd â chlywed am y gwaith arbennig yn narlith Meleri Davies o Bartneriaeth Ogwen

Roedd hi’n wych gweld Neuadd Ogwen yn ganolbwynt i ddiwrnod o sgyrsiau treiddgar heddiw wrth i nifer o drigolion yr ardal rannu eu gwybodaeth a phrofiadau arbennig am ein Dyffryn.

Diolch i Bartneriaeth Ogwen a phawb sydd wedi bod ynghlwm gyda’r trefnu – gan gynnig rhaglen o sgyrsiau diddorol am bob math o agweddau o’n Cynefin a Chymuned.

Cofiwch hefyd am y teithiau cerdded sy’n cael eu cynnal fore Sul, 19 Medi: 10yb

– Ynni Ddoe a Heddiw – Taith gerdded o Felin Fawr i Bont Ogwen yng nghwmni haneswyr lleol ac Ynni Ogwen Cyf; 10.30yb

– Taith Natur Ogwen – Ben Stammers, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gyda’r sgwrs yn cychwyn o Cae Star.

(Lluniau Partneriaeth Ogwen)