Cyfres deledu am Fethesda yn cipio gwobr

Pobol y Chwarel wedi ennill gwobr yng ngŵyl New York TV & Film

Carwyn
gan Carwyn

Mae’r gyfres deledu Bethesda: Pobol y Chwarel wedi ei gydnabod mewn gŵyl ffilmiau yn Efrog Newydd.

Enillodd y rhaglen a ymddangosodd yn wreiddiol ar S4C ym mis Mawrth y llynedd wobr efydd yn y categori i raglenni dogfen sef ‘Portreadau Cymunedol’.

Cyfres ‘pry ar y wal’ oedd hon, yn dathlu pobl y pentref, yn cael cipolwg ar fywydau bob dydd a phrofiadau trigolion y cylch. Yn adrodd hanes yr ardal trwy rhai o gymeriadau Dyffryn Ogwen.

Adroddwyd am y rhaglen ar Ogwen360 yn wreiddiol y llynedd. Mae rhagor o hanes y rhaglen a’r cymeriadau sydd i’w gweld arni yma.

Adrodd straeon cymeriadau Bethesda

Cynhyrchwyd y gyfres gan Nia Parry a Deiniol Morris a’i chyfarwyddo gan Rhodri Davies ar gyfer Boom Cymru.

Yn ôl Nia: “Y peth mwya’ arbennig am weithio ar y gyfres oedd y croeso gawson ni a’r fraint o gael adrodd straeon cymeriadau Bethesda.

“Cymuned glos Gymreig, cymuned sydd wedi’u cysylltu drwy eu perthynas â’r chwarel a’r llechi a’r tirwedd o’u cwmpas. Mae ’na straeon sy’n dangos cyfeillgarwch, entrepreneuriaeth, gobaith, hwyl, ac egni a gwydnwch pobl.

“Nhw sydd wedi ennill y wobr hon – eu stori nhw ydy hi ac fe fuon ni fel tîm bychan iawn yn freintiedig i gael ei hadrodd hi.”

Meddai Rhodri Davies: “Yn Bethesda buon ni’n lwcus i ddarganfod y rhyfeddol yn y lleol, ac mae’r ffaith bod lleisiau’r filltir sgwâr wedi ennill llwyddiant rhyngwladol yn destament i ysbryd unigryw trigolion Dyffryn Ogwen. Fel cyfarwyddwr y gyfres wy’n falch iawn o hynny.”

Ychwanegodd Llinos Wynne, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol S4C: “Llongyfarchiadau mawr i Nia, Boom Cymru a phawb a wnaeth cymryd rhan yn y cynhyrchiad arbennig hwn.

“Mae Bethesda: Pobol y Chwarel yn gyfres bwysig iawn, nid unig i gofnodi bywyd go iawn mewn cymuned sy’n wynebau sialensiau enfawr ond hefyd fel darn o hanes cymdeithasol ar gyfer y cenhedloedd sydd i ddod.”